P'un a ydych yn ofalwr newydd neu wedi bod yn gofalu am rywun am gyfnod, mae'n bwysig eich bod yn deall eich hawliau a pha gymorth sydd ar gael i'ch cefnogi, ble bynnag yr ydych yn eich siwrnai ofalu. P'un a ydych yn y gweithle, yn lleoliad gofal iechyd, wrth ryngweithio â gweithwyr proffesiynol neu gartref.

Efallai y bydd yn teimlo fel pe baech yn jyglo dwy swydd pan fyddwch mewn gwaith cyflogedig neu'n astudio ac yn gofalu am ffrind neu berthynas. Gall gofalu fod yn anrhagweladwy; gall ddigwydd dros nos neu ymlwybro arnoch ac yn aml ni ellir ei gynllunio. Gall bod yn ofalwr gael effaith andwyol ar eich lles - mae’n bwysicach nag erioed bod gofalwyr yn gofalu am eu hiechyd eu hunain.

Cynhelir Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 25 Tachwedd eleni. Fel rhan o’r diwrnod, mae’r Tîm Gofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol a’n partneriaid am sicrhau bod gan ofalwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, fel y gallant deimlo’n hyderus i ofyn am yr hyn sydd ei angen, pan fydd ei angen arnynt. I gefnogi hyn, rydym wedi dod â rhaglen am ddim o weithgareddau wyneb i wyneb a sgyrsiau byr ar-lein at ei gilydd.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Eiriolwr dros Ofalwyr ac aelod Cabinet ar gyfer Porth Gofal, Cymorth Cynnar Canolfannau Lles a Diwylliant: “Mae'n wych gallu dod â gofalwyr at ei gilydd eto mewn grwpiau bach yn ogystal â pharhau gyda chyngor ar-lein hefyd. Mae’r rhaglen yma yn apelio at eang o ofalwyr di-dâl, gan gynnwys gofalwyr sy’n rhieni, gofalwyr dementia a’r rheini sy’n gofalu am rywun sydd wedi’i effeithio gan broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.”

Os gwyddoch am unrhyw un sydd â chyfrifoldebau gofalu a fyddai'n elwa o'r gweithgareddau am ddim hyn, rhannwch yn neges â nhw. Nid oes unrhyw gywilydd mewn gofyn am gyngor pan fydd ei angen arnoch; mae'n cymryd person cryf i barhau i ofalu – mae'n cymryd person cryfach a mwy gwydn i estyn allan at eraill.

Mae’r raglen ar gael ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/diwrnod-hawliau-gofalwyr-2021/ ac ar ein tudalen Facebook @CSCeredigion o dan digwyddiadau.

Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth

Er mwyn codi ymwybyddiaeth am hawliau gofalwyr di-dâl a'r manteision posibl i fusnesau lleol o gefnogi gofalwyr di-dâl, mae’r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol y Cyngor wedi cyhoeddi pecyn digidol. Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Ngheredigion* (BBaCh) y gallai eu staff fod yn jyglo gwaith cyflogedig a gofal di-dâl. Mae ymchwil yn dangos bod tua 600 o bobl y dydd, yn y DU, yn rhoi'r gorau i'w swydd i ofalu am rywun annwyl sy'n hŷn, yn anabl neu'n ddifrifol waelill[1].Mae hefyd yn awgrymu y gallai absenoldeb, straen a throsiant staff sy'n deillio o hynny fod yn costio dros £3.5 biliwn i fusnesau'r DU bob blwyddyn.

Mae modd gwneud arbedion sylweddol drwy gefnogi gofalwyr yn well i reoli gwaith ochr yn ochr â gofalu. I gael gwybod mwy am sut y gall eich busnes gefnogi gofalwyr di-dâl yng Ngheredigion, lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth newydd ar gyfer busnesau bach a chanolig: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-ofalwyr/gofalwyr-mewn-cyflogaeth/

I gael rhagor o wybodaeth, neu i ofyn am gopi cadarn o'r rhaglen, cysylltwch â ni ar 01970 633564 neu e-bostiwch unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk

*Sefydliadau sydd â llai na 250 o weithwyr

[1] Carers UK – Juggling work and unpaid care report, 2019

18/11/2021