Mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i gefnogi unigolion a theuluoedd sydd angen hunan-ynysu oherwydd COVID-19.

Mae Cyngor Sir Ceredigion a sefydliadau yr ydym yn cyd-weithio â nhw yn fwy a mwy pryderus am nifer yr achosion cadarnhaol o COVID-19 yn ardal Aberteifi.

Dros yr wythnos ddiwethaf, bu nifer sylweddol o achosion ac mae’r tystiolaeth drwy waith y Tîm Olrhain Cysylltiadau yn dangos bod y feirws wedi’i drosglwyddo yn eang trwy’r gymuned gyfan.

Yn dilyn cyfarfod o Dîm Rheoli Digwyddiadau Aberteifi a gynhaliwyd ddydd Sul, 22 Tachwedd 2020, gwnaed penderfyniad y byddai 7 ysgol a 2 feithrinfa ar gau o ddydd Llun, 23 Tachwedd 2020 hyd nes iddynt ailagor ddydd Llun, 7 Rhagfyr 2020.

Yn ystod y pythefnos nesaf, gall unigolion sydd wedi cael gwybod bod angen iddynt hunan-ynysu am 14 diwrnod, ac os nad oes ganddynt deulu, ffrindiau na rhwydwaith cymorth lleol, ffonio Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk. Bydd eich ymholiad yn cael ei rannu gyda’r tîm o Gysylltwyr Cymunedol neu’r adran briodol a fydd wedyn yn gweithio gyda chi i adnabod eich anghenion.

Mae Porth y Gymuned hefyd yn diweddaru’r rhestrau adnoddau yn rheolaidd sydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion yma: Adnoddau ar gyfer y Gymuned.

Os bod y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru, (POD) wedi cysylltu â chi a wedi gofyn i chi hunanynysu, efallai fod gennych yr hawl i gael Cymorth Ariannol o dan y Cynllun Cymorth Taliad Hunan-ynysu. Bydd taliad sefydlog o £500 ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac o ganlyniad yn dioddef o golled incwm. I wirio a ydych chi'n gymwys i gael y taliad hwn ac i wneud cais, dilynwch y ddolen hon: Taliad Cynllun Cymorth Hunanynysu.

Ar-lein, mae rhestr arall o grantiau i Unigolion mewn angen, gellir eu gweld yma

24/11/2020