Mae cymorth ar gael i grwpiau lleol sydd â diddordeb mewn cynhyrchu ynni cynaliadwy ac arbed arian. Gall Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, helpu cymunedau gwledig lleol i danio’u syniadau am brosiectau ynni adnewyddadwy gyda chymorth sydd ar gael dan y thema LEADER ‘ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol’.

Fel rhan o’r cymorth sydd ar gael, gall grwpiau lleol sydd â diddordeb mewn cynhyrchu ynni cynaliadwy ac arbed arian gael eu hysbrydoli drwy ymweld â phrosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol sydd wedi hen sefydlu, i archwilio’r opsiynau o ran datblygu eu mentrau eu hunain. Mae trefnu ymgynghoriadau gyda phartneriaid a rhanddeiliaid hefyd yn elfen all dderbyn cymorth dan y thema hon.

Dywed y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Yr Economi ac Adfywio, “Rydym wedi’n bendithio yma yng Ngheredigion. Does dim angen inni edrych yn bell i weld fod gan ein sir asedau naturiol penigamp, ond mi allem gael mwy o fudd ohonynt. Drwy harneisio potensial tirwedd a hinsawdd ein sir, gallem nid yn unig gryfhau ein heconomi, arbed arian ac amddiffyn ein hamgylchedd, ond mi fyddai ein cymunedau gwledig hefyd yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy tuag at greu Ceredigion mwy rhagweithiol a gwydn.”

Mae’r thema ‘ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol’ yn un o bum thema a osodwyd dan y cynllun LEADER. Mae LEADER, sy’n anelu at gefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu heriau a wynebir gan gymunedau gwledig, yn cael cymorth gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014- 2020, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych chi syniad a allai helpu i wneud y mwyaf o’r ynni adnewyddadwy yn eich cymuned wledig chi, ac i gael mwy o wybodaeth am eich cymhwysedd i dderbyn cymorth, galwch Meleri Richards neu Marie Evans ar 01545 572063. I gael mwy o fanylion am y pum thema LEADER ac i weld sut mae prosiectau eraill yng Ngheredigion wedi elwa o gymorth Cynnal y Cardi ewch i www.cynnalycardi.org.uk .

Y dyddiad cau yn 2018 ar gyfer cyflwyno syniadau/mynegiannau o ddiddordeb dan bob un o’r pum thema yw: 10 Medi ac 17 Rhagfyr 2018. Croesewir cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.

07/08/2018