Mae cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo i newid y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Ngheredigion i helpu preswylwyr i gael gwell ansawdd bywyd. Nod y cynlluniau yw helpu pobl yn gynharach i'w helpu i gadw'n actif am fwy o amser.

Mae'r dull ataliol hefyd wedi'i gynllunio i ddefnyddio cyllidebau cyngor sydd wedi bod o dan straen yn fwy effeithiol.

Cafodd y gyllideb ar gyfer 2019-2020 ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Ceredigion ar 21 Chwefror 2019.

Mae cynnydd mewn anghenion gofal, a lleihad mewn cyllidebau yn rhoi cyllidebau gofal cymdeithasol oedolion Cyngor Sir Ceredigion o dan bwysau difrifol. Mae'r gyllideb yn bwriadu arbed £2.1m o wasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion.

Y Cynghorydd Alun Williams yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Oedolion. Dywedodd, "Rydym yn bwriadu newid y ffordd rydym yn gweithio er mwyn dechrau helpu pobl yn gynt yn hytrach nag aros tan yn hwyrach pan fydd ganddynt anghenion gofal uwch o bosib. Trwy weithio yn y ffordd hon, a buddsoddi mewn gwaith ataliol, mae pobl yn debygol o gael ansawdd bywyd gwell am gyfnod fwy a bydd hyn yn dod â’r fantais ychwanegol o arbed adnoddau yn gyffredinol.”

"Does dim amheuaeth bod cyllidebau cynghorau o dan lawer o bwysau. Mae angen i ni gydbwyso'r angen a orfodir arnom i arbed arian gyda'r flaenoriaeth o wella ansawdd bywyd ein poblogaeth. Bwriad ein cynlluniau newydd yw gwneud hynny: helpu pobl i wella, a defnyddio cyllidebau yn y ffordd fwyaf effeithiol. "

“Diogelwch a lles ein trigolion yw ein blaenoriaeth bob amser. Er ein bod yn bwriadu gwario mwy ar helpu pobl yn gynt, byddwn yn dal i wneud yn siŵr y bydd y preswylwyr sydd angen lefel uwch o ofal yn dal i gael gofal da.”

Mae ffocws ymyrraeth gynnar y cyngor eisoes wedi dechrau. Mae gan wasanaeth newydd Porth y Gymuned bedwar Cysylltwyr Cymunedol sy'n helpu pobl i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt yn y gymuned heb orfod aros nes bod ganddynt ddigon o anghenion gofal i fod yn gymwys i gael gofal cymdeithasol llawn.

21/02/2019