Ar 28 Ionawr 2019, ymddangosodd Mr Ceirian Jones, Fferm Rhiwonnen, Abermeurig, Llanbedr Pont Steffan gerbron Llys Ynadon Aberystwyth, wedi’i gyhuddo o rwystro swyddogion iechyd anifeiliaid, trosedd yn ymwneud â lles anifeiliaid a throseddau yn gysylltiedig â sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Plediodd yn euog i dri chyhuddiad o fethu â chael gwared ar gyfanswm o 31 o garcasau defaid a ganfuwyd mewn cyflyrau amrywiol o bydru ar eiddo'r fferm rhwng 12 a 23 Chwefror 2018. Plediodd Mr Jones yn euog hefyd i rwystro Swyddogion Iechyd Anifeiliaid wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau ar 12 Chwefror 2018, pan symudwyd y carcasau cyn y gallai’r swyddogion eu harchwilio. Cyfaddefodd hefyd i gyhuddiad arall o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 am fethu â sicrhau bod anghenion anifail yn cael eu diwallu.

Rhoddodd yr Ynadon ddirwy o £150 i Mr Jones am bob un o'r pum trosedd gan ei orchymyn i dalu costau cyfreithiol llawn Cyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb am Gyllid a Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd ei fod yn ddiolchgar i swyddogion iechyd anifeiliaid a chyfreithwyr y Cyngor a weithiodd yn ddiwyd a phroffesiynol i ddwyn yr achos hwn gerbron y llys. Fe ddywedodd, "Nid yw casglu tystiolaeth a’i chyflwyno er mwyn galluogi erlyniad llwyddiannus byth yn dasg hawdd ac mae’n glod iddynt fod y gyfraith wedi ei gweithredu a'i chynnal. Hoffwn ddiolch hefyd i’r cyhoedd a'r gymuned ffermio ehangach sy'n rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, yn ogystal â staff o’r sefydliadau partneriaethol sy'n cynorthwyo ein staff yn ôl yr angen. Rwy'n siomedig iawn nad yw nifer fach iawn o unigolion yn cadw at y safonau lles uchaf o ran anifeiliaid sy'n cael eu harfer gan y rhan fwyaf o ffermwyr Ceredigion."

30/01/2019