Mae’r amcanion llesiant fydd yn helpu a chefnogi trigolion Ceredigion wedi’u cytuno ar gyfer y bum mlynedd nesaf.

Yn ystod cyfarfod o’r Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022, cymeradwyodd y Cynghorwyr y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-2027.

Mae’r strategaeth yn amlinellu pedwar amcan llesiant, sef:

  • Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
  • Creu cymunedau gofalgar ac iach
  • Darparu'r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi pobl o bob oed i ddysgu
  • Creu cymunedau cynaliadwy a gwyrdd sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Hoffem ddiolch i’r weinyddiaeth flaenorol am fwrw ymlaen â phrosiectau buddsoddi allweddol megis Tyfu Canolbarth Cymru a Gwella Ysgolion ynghyd â’r gwaith o gydlynu ein hymateb i bandemig COVID-19. Mae’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y tymor diwethaf yn fawr.

“Rydym yn parhau i weithio’n galed i ddod ag adferiad economaidd a llwyddiant i Geredigion drwy gefnogi busnesau lleol, mynd i’r afael â thlodi a darparu cyfleoedd i bobl ifanc aros yn eu cymunedau lleol neu ddychwelyd iddynt.

“Yn ystod y tymor hwn, byddwn hefyd yn cydweithio gyda Chymdeithasau Tai lleol i gynyddu’r stoc o dai cymdeithasol i ymateb i anghenion pobl leol, a digalonni perchnogaeth ail dai yn y sir. Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â gweithredu ein Rhaglen Lesiant Gydol Oes sy’n torri tir newydd i drawsnewid y modd y darperir gofal cymdeithasol a sicrhau bod pobl yn cael y lefel a’r math cywir o gymorth ar yr adeg gywir.

“Mae pawb yn adnabod pwysigrwydd o fod yn gysylltiedig a byddwn yn gweithio i wella cysylltedd digidol a thrafnidiaeth ar draws y sir, trwy gefnogi cyflwyno Band llydan 4G, gwthio am ddiogelwch ffyrdd gwell ac ymgyrchu am fwy o lwybrau teithio llesol. Mae ein huchelgais yn parhau i fod yn Gyngor carbon net sero erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen sicrhau bod cynlluniau datgarboneiddio a newid hinsawdd yn sail i bopeth yr ydym ni’n ei wneud wrth i ni geisio diogelu ein hamgylchedd hardd heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau darllen am y dyheadau sydd gennym ar gyfer ein Sir yn y strategaeth ac edrychwn ymlaen at roi adroddiadau cyson i drigolion am y cynnydd y byddwn ni’n ei wneud.”

Manteisiodd drigolion lleol ar y cyfle i ddweud eu dweud ar y strategaeth yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Medi.

I ddarllen y strategaeth, ewch i'r tudalen Strategaeth Gorfforaethol.

Am ragor o wybodaeth, neu i gysylltu â’r Cyngor, ffoniwch 01545 570881 neu anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

24/11/2022