Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn cadarnhad bod y Cynghorydd Paul James wedi cael ei ladd mewn damwain ffordd neithiwr.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, "Mae’r newyddion trasig hwn am ein cyfaill agos a’n cydweithiwr, y Cynghorydd Paul James, wedi bod yn sioc fawr inni i gyd. Fe wnaeth Paul gynrychioli ward Llanbadarn Fawr Sulien am flynyddoedd lawer ac roedd yn llais clir a chadarn i’w drigolion. Cafodd Paul ei eni a’i fagu yn Aberystwyth ac roedd yn gymeriad adnabyddus gyda chalon fawr. Mae’r newyddion ofnadwy hwn wedi ein tristáu’n fawr.

“Chwaraeodd Paul rôl lawn ym mywyd ei gymuned leol, nid yn unig fel Cynghorydd Sir, ond hefyd fel Cynghorydd Cymuned yn Llanbadarn Fawr ac fel llywodraethwr yn yr ysgolion lleol. Cynrychiolodd y Cyngor Sir ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Roedd Paul yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Swyddog Diogelwch ac roedd wedi gwasanaethu fel awyrfilwr yn y Fyddin Brydeinig ac yn Lleng Dramor Ffrainc.

“Gedy ei wraig Jane, pedwar o blant a’i fam Vanod. Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â’r teulu yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn.

“Mae baneri’r Cyngor yn chwifio ar hanner mast er cof am fab hoffus a gwas ffyddlon i’r sir hon.”

Hoffai'r Cyngor ofyn i bawb barchu preifatrwydd y teulu yn ystod y cyfnod hwn o alaru

12/04/2019