Ar 5 Mawrth, cyhoeddwyd y dyluniadau a ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd mewn pum ysgol gynradd yng Ngheredigion. Y dasg oedd dylunio poster a fydd yn cael ei ddefnyddio fel achrediad i fusnesau sy’n lleihau eu defnydd o blastig ac sy’n defnyddio llai o ddeunydd pacio.

Bu disgyblion blwyddyn 5 a 6 o Ysgol Gynradd Aberaeron, Ysgol Cei Newydd, Ysgol Gynradd Bro Sion Cwilt, Ysgol Gynradd Aberporth ac Ysgol Gymunedol Craig yr Wylfa yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Dewisiwyd y pum dyluniad gorau o blith yr ysgolion. Derbyniodd yr enillwyr ac wyth unigolyn a ddaeth yn ail, dystysgrifau am eu cyflawniad.

Bydd y posteri buddugol yn cael eu dyfarnu i fusnesau a sefydliadau sy’n cefnogi lleihau plastig, sy’n caniatáu i gwsmeriaid lenwi poteli dŵr untro ac sydd wedi rhoi’r gorau i ddarparu gwellt yfed plastig. Bydd ysgolion sy’n ymrwymo i leihau eu plastig hefyd yn derbyn poster.

Dywedodd Melanie Heath, Swyddog Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion o Gyngor Sir Ceredigion, “Ar ôl prosiect peilot llwyddiannus yn Llangrannog i leihau plastig yn 2016, roeddem yn awyddus i wobrwyo neu achredu busnesau a sefydliadau sydd wedi lleihau eu defnydd o blastig.

Ar gyfer prosiect eleni, roeddem eisiau cynnwys ein pobl ifanc sy’n teimlo’n angerddol am faterion megis llygredd plastig a newid yn yr hinsawdd. Roeddem eisiau rhoi cyfle iddyn nhw gyfrannu at yr ymgyrch a mynegi eu barn.”

Derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn helpu cynnal y prosiect eleni.

Dywedodd Linda Ashton, Uwch Swyddog Partneriaeth, Mynediad a Hamdden, Cyfoeth Naturiol Cymru, "Rydym yn cefnogi cymunedau a phartneriaid drwy ein rhaglenni cymorth grant i helpu mwy o bobl i ddysgu am ein hamgylchedd naturiol a'i fwynhau.

Mae'n wych gweld pobl ifanc yn cymryd rhan mewn prosiectau fel hyn ac yn annog eraill i leihau eu gwastraff plastig. Helpu i ddiogelu yr amgylchedd Cymru ar gyfer y dyfodol.”

 

15/03/2019