Cyhoeddwyd camau pellach gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford heddiw, ddydd Gwener 19, i ddod â Chymru allan o’r cyfnod cloi.

Bydd pob busnes manwerthu yng Ngheredigion nad yw’n hanfodol yn gallu agor o ddydd Llun 22 Mehefin os gallant gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r ddyletswydd yng nghyfraith Cymru i gadw pellter corfforol.

Roedd y cyhoeddiadau eraill a rannwyd heddiw yn cynnwys y canlynol:
• Galluogi pobl i weddïo’n breifat mewn mannau addoli. Bydd angen cadw pellter cymdeithasol ac ni fydd hawl i ymgynnull.
• Ailgychwyn y farchnad dai drwy alluogi pobl i fynd i weld tai os ydynt yn wag, ac i symud tŷ os cytunwyd ar y gwerthiant ond nad yw’r trefniadau wedi’u cwblhau eto.
• Llacio’r cyfyngiadau ar gyrtiau chwaraeon awyr agored, ond gan gynnal pellter cymdeithasol. Ni chaniateir unrhyw chwaraeon cyswllt na chwaraeon tîm.
• Caniatáu cyfleusterau gofal plant i ailagor yn raddol. Am unrhyw ymholiadau ynghlŷn a gofal plant, cysylltwch a Gofal_Plant_Argyfwng@ceredigion.gov.uk.
Mae’r cyngor o ran aros yn lleol yn parhau. Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi siopau a busnesau lleol. Bydd hyn yn ei dro yn helpu economi Ceredigion. Bydd pobl yn gallu teithio y tu hwnt i’w hardal leol ar sail trugaredd yn unol â’r canllawiau newydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi’r newidiadau i lacio cyfyngiadau’r Coronafeirws tra hefyd yn aros yn lleol er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ddydd Llun 22 Mehefin. Ni fydd unrhyw newidiadau eraill yn cael eu gwneud yng Ngheredigion am y tro. Mae’r wybodaeth lawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Daw cyhoeddiad heddiw yn sgil adolygiad statudol o’r rheoliadau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn adolygu’r gofyniad i aros yn lleol erbyn 6 Gorffennaf. Byddant yn gweithio gyda’r diwydiant lletygarwch, cymunedau a llety gwyliau yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod adolygu nesaf er mwyn gweld beth y gellir ei wneud i godi’r cyfyngiadau yn ddiogel.

Mwy o wybodaeth ar dudalen y Coronafeirws.

19/06/2020