Mae talu am barcio heb arian parod yn cael ei gyflwyno yng Ngheredigion i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 sy'n gysylltiedig â thrin a thrafod arian parod.

Gohiriwyd talu am barcio ym meysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Ceredigion ar gychwyn cyfnod clo cenedlaethol y COVID-19 ar ddiwedd mis Mawrth 2020.

Bydd taliadau heb arian parod yn cael eu cyflwyno ym mwyafrif o feysydd parcio talu ac arddangos o 01 Rhagfyr 2020. Bydd cyflwyno’r ffordd yma o dalu yn lleihau'r teithio sy'n ofynnol i wasanaethu a gwagio’n rheolaidd y peiriannau arian parod drwy hefyd lleihau'r risg o drosglwyddo COVID-19 sy'n gysylltiedig â thrin a thrafod arian parod. 

Bydd aelodau o'r cyhoedd yn dal i allu talu am eu tocynnau tymor parcio (3+ mis) ar-lein, dros y ffôn neu drwy gopi papur gyda siec.

Os oes peiriant di-arian ar waith yn y maes parcio bydd angen i gwsmeriaid dalu i barcio. Gellir talu dim ond gyda cherdyn (sglodyn a phin a digyffwrdd) a systemau talu digyffwrdd sy’n cyd-fynd â ffonau clyfar/watsys clyfar dethol e.e. Apple Pay/Google Pay. Ni fydd dewis talu drwy arian parod.

Bydd taliadau di-arian yn cael eu cyflwyno yn y meysydd parcio canlynol o 1 Ragfyr 2020:

  • Ffordd y Gaer, Aberaeron
  • Traeth y Gogledd, Aberaeron
  • Maesyrafon, Aberystwyth
  • Coedlan y Parc Isaf / Coedlan y Parc, Aberystwyth
  • Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
  • Y Baddondy, Aberteifi
  • Maes y Ffair, Aberteifi
  • Sgwâr Cae Gwyrdd, Aberteifi
  • Mwldan, Aberteifi
  • Stryd y Cei, Aberteifi
  • Y Cwmins, Llanbedr Pont Steffan
  • Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan
  • Y Rwceri, Llanbedr Pont Steffan

Bydd taliadau di-arian yn cael eu cyflwyno yn y meysydd parcio tymhorol canlynol o 1 Mawrth 2021:

  • Heol yr Eglwys a Stryd y Cware, Cei Newydd
  • Promenâd Newydd, Aberystwyth
  • Traeth y De, Aberaeron

Rydym yn parhau i beidio â chodi tâl am y tro yn y meysydd yma:

  • Rhes Gloster, Aberteifi
  • Porth, Llandysul
  • Iard y Talbot, Tregaron

Cysylltir â’r sawl sydd â thocynnau tymor cymwys a hynny mewn perthynas â'u tocynnau tymor presennol. Tan yr amser hwnnw, mae eu tocynnau tymor yn parhau i fod yn ddilys i'w defnyddio.

Bydd parcio am ddim yn cael ei ddarparu ar ddydd Sadwrn 05, 12 a 19 Rhagfyr 2020 ym mhob maes parcio talu ac arddangos y Cyngor.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570 881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

25/11/2020