Mae cynlluniau i droi hen bloc swyddfa yn Aberaeron i mewn i Ganolfan Gofal Integredig newydd sbon gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi'u hanfon at swyddogion Llywodraeth Cymru i'w hystyried.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno Achos Cyfiawnhad Busnes (BJC) i Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith adnewyddu arfaethedig ym Minaeron er mwyn darparu gwasanaethau integredig a chynaliadwy i Aberaeron a’r cylch.
Mae angen gwaith cynnal a chadw gwerth tua £1.4 miliwn i adeilad presennol Ysbyty Aberaeron. Daeth arfarniad diweddar i’r casgliad nad yw’n addas i’w ddiben ac nad yw’n ffafriol i ddarpariaeth gofal iechyd modern.
Mae Minaeron yn adeilad dau lawr a adeiladwyd yn wreiddiol yn y 1970au, ac fe’i prynwyd gan y Bwrdd Iechyd ym mis Ebrill 2017 gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Bydd cynnwys Meddygfa Tanyrafon yn arwain at ganolfan cwbl integredig a fyddai’n sicrhau gwelliannau sylweddol i lwybrau cleifion.
Bydd datblygiad Canolfan Gofal Integredig Aberaeron yn cynnwys o leiaf y canlynol:
• Gwasanaethau Clinigol a staff cymorth o Ysbyty Aberaeron;
• Timau Nyrsio Ardal;
• Meddygfa;
• Staff swyddfa sydd wedi’u lleoli ar hyn o bryd ar safle Felinfach;
• Staff presennol sydd wedi’u lleoli ym Minaeron - tîm rheoli Ceredigion;
• Staff Iechyd y Cyhoedd o Dregaron (yn amodol ar ymgynghoriad);
• Staff Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Meddwl yr Awdurdod Lleol;
• Staff ychwanegol o Fronglais neu gyfleusterau Bwrdd Iechyd eraill a gafodd eu hadleoli ar ôl cau llawr uchaf Ysbyty Aberaeron.
Meddai Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Ceredigion: “Rydym yn falch o allu cyhoeddi ein bod wedi cyflwyno’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer adnewyddu Minaeron i Lywodraeth Cymru fel cam nesaf ein taith tuag at ddatblygu Canolfan Gofal Integredig i Aberaeron.
“Peth amser yn ôl, nodwyd gennym bod y model o wasanaethau cymunedol a ddatblygwyd ar gyfer Ceredigion yn atgyfnerthu’r angen i wasanaethau i aros yn Aberaeron. Rydym wedi archwilio nifer o atebion eraill o fewn ardal Aberaeron, fodd bynnag ni ystyriwyd nhw i fod yn ddichonadwy.
“Mae’r Achos Cyfiawnhad Busnes hwn yn egluro’r achos dros newid, y broses er archwilio atebion eraill, ac yn amlinellu’r cynlluniau i weithredu’r opsiwn a ffafrir.
“Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad galw-heibio ym mis Mawrth er mwyn i’r cyhoedd gael gweld y cynlluniau a chael gwell dealltwriaeth o sut y bydd cymunedau lleol yn elwa o’r prosiect newydd a chyffrous hwn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Sir Catherine Hughes, Aelod o’r Cabinet â Chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol “Dyma i ni enghraifft wych o sut y gallwn gydweithio â’n partneriaid er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i drigolion Aberaeron, a Cheredigion gyfan.”
07/03/2018