Bydd pob aelod o staff Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn isafswm o £9 yr awr - sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw Sylfaenol o Ebrill 2019. Mae hyn yn dilyn cymeradwyo polisi cyflog newydd gan y cyngor ar 21 Mawrth 2019.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Meddai, "Rydym wedi dyheu am hyn ers blynyddoedd. Mae llymder wedi clymu ein dwylo y tu ôl i'n cefnau a chyfyngu ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynyddu cyflogau staff. Mae gennym weithlu ymroddedig ac mae'n bwysig ein bod yn eu talu'n iawn. "

"Mae'n arbennig o bwysig ein bod wedi gallu rhoi'r gyfran uchaf o godiad cyflog i'r rhai sy'n cael y cyflog isaf yn y cyngor. Mae pob aelod o staff bellach yn derbyn y Cyflog Byw Sylfaenol o leiaf.”

Mae'r polisi cyflog newydd yn ymgorffori graddfeydd cyflog sydd wedi eu pennu yn genedlaethol. Mae pennu'r graddfeydd cyflog newydd yn golygu y bydd y staff sy'n ennill y cyflogau isaf yn gweld y cynnydd mwyaf mewn cyflog. Mae'r ddwy radd gyflog isaf wedi cael eu huno yng Ngheredigion, sy'n golygu y bydd pob aelod o staff yn cael tâl o £9 yr awr o leiaf o 1 Ebrill 2019. Bydd hyn yn codi i £9.18 o fewn 12 mis o weithio i'r cyngor.

Alison Boshier yw Ysgrifennydd cangen Sir Ceredigion Unsain. Meddai, “Rydym wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion ar y polisi cyflogau newydd. Rydym wedi cymryd rhan ym mhob cam o broses agored a thryloyw. Mae'r rhan fwyaf o staff cyngor yn byw yn lleol, felly nid yn unig bydd hyn yn cynyddu budd staff cyngor, mae hefyd yn mynd i fod o fudd i'r economi leol.”

Peter Hill yw Trefnydd Rhanbarthol Undeb y GMB. Meddai, “Mae undeb y GMB yn falch iawn bod cytundeb wedi'i wneud gyda Chyngor Sir Ceredigion ar weithredu dyfarniad cyflog yr NJC. Cafodd y cytundeb cyflog hwn ei negodi gyda'r undebau cydnabyddedig a thorrodd gap cyflog 1% y Llywodraeth, gan roi codiad cyflog o 2% yr oedd ei angen yn fawr i'n haelodau mewn Llywodraeth Leol, gyda chodiadau ychwanegol ar gyfer y graddau cyflog isaf.”

21/03/2019