Ar ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf, bydd Amgueddfa Ceredigion yn croesawu ymwelwyr trwy eu drysau i arddangosfa Blwyddyn Darganfod 2019 i ddathlu hanes ymdrechion dynol, gyda gwrthrychau wedi’u dewis o gasgliad yr amgueddfa.

Ar 20 Gorffennaf, 1969, y gofodwyr Americanaidd Neil Armstrong ac Edwin ‘Buzz’ Aldrin oedd y bobl gyntaf erioed i lanio ar y lleuad. Tua chwe awr a hanner yn ddiweddarach, Armstrong oedd y person cyntaf i gerdded ar y lleuad. Wrth iddo gymryd ei gam cyntaf, dywedodd, “Dyna un cam bach i ddyn, un naid enfawr i ddynolryw."

Mae Amgueddfa Ceredigion yn chwilio am eich atgofion chi o’r glaniad ar y lleuad i gymryd rhan mewn arddangosfa newydd, ‘Gan ei fod yno’, sy’n dathlu fforiadau dynol. Ydych chi’n cofio’r achlysur tyngedfennol hwn? Ble oeddech chi? Beth oeddech chi’n ei wneud? A allech chi gredu beth oeddech chi’n ei weld? Oeddech chi’n meddwl tybed beth oedd nesaf i ddynolryw?

Dywedodd Andrea DeRome, Swyddog Mynediad i Gasgliadau yn Amgueddfa Ceredigion, “Mae angen eich atgofion chi o’r glaniad ar y lleuad a mentrau'r ddynoliaeth i’r gofod i ffurfio rhan annatod o’r arddangosfa. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.”

Bydd yr arddangosfa ‘Gan ei fod yno’ yn lansio ar ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf ac yn rhedeg hyd at ddydd Sadwrn 12 Hydref 2019. Mae’r Amgueddfa ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener o 10yb hyd at 5yp, gyda mynediad am ddim!

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Andrea DeRome drwy e-bost ar andread@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch yr amgueddfa ar 01970 633088.

14/06/2019