Ar 12 Gorffennaf 2019, fe wnaeth Cyngor Ieuenctid Ceredigion gymryd drosodd Siambr y Cyngor i gynnal sesiwn trafodaeth, wedi’i drefnu a’i arwain ganddyn nhw. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych iddyn nhw ofyn cwestiynau ynglŷn â materion sy'n effeithio ar bobl ifanc i banel o bobl sy’n dylanwadu a gwneud penderfyniadau.

Aelodau’r panel oedd Ben Lake AS; Sally Holland, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Cymru; Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Ceredigion a Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cafodd nifer o gwestiynau eu paratoi a’u cyflwyno gan aelodau o’r Cyngor Ieuenctid. Roedd y cwestiynau yn tynnu sylw at faterion megis iechyd meddwl, trafnidiaeth, yr Iaith Gymraeg, llygredd plastig, addysg a chwricwlwm gydol oes,

Dywedodd Thomas Kendall, Aelod Seneddol Ieuenctid Prydain dros Geredigion, “Fel aelod o Gyngor Ieuenctid Ceredigion, roeddwn yn falch iawn o’r cyfle i drafod nifer helaeth o bynciau llosg gyda phanel hynod frwdfrydig a gwybodus. Roedd hi’n bleser i fod yn rhan o drafodaeth aeddfed a chynhwysfawr am amryfal faterion sy’n effeithio ar ieuenctid ein sir heddiw.”

Dywedodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Ceredigion, “Roedd hi’n bleser cael fy ngwahodd i fod ar y panel i drafod themâu pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Ngheredigion. Roedd safon ac aeddfedrwydd y drafodaeth yn eithriadol, sy’n galondid mawr at ddyfodol ein sir.”

Cafodd y digwyddiad ei agor a’i gau gan Aelod Seneddol Ieuenctid y DU dros Geredigion, Thomas Kendall a’r Dirprwy dros Geredigion, Huw Jones, ac yn arwain y digwyddiad oedd Wil Jac Rees, cyn Aelod Seneddol Ifanc Ceredigion.

19/07/2019