Dechreuoedd ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd (LDP2) ar 28 Mehefin 2019. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu sylwadau oddi wrth y cyhoedd ac unrhyw un sydd â diddordeb neu fudd yn y maes hwn a’i effaith ar Geredigion.

Mae cynlluniau datblygu yn amlinellu’r weledigaeth hirdymor ynghylch lle y dylai datblygu ddigwydd a lle na ddylai ddigwydd mewn ardal benodol. Mae’r cynllun yn ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys deddfwriaeth newydd, y Gymraeg, y boblogaeth, hyfywedd tai fforddiadwy a chyfleoedd gwaith.

Y strategaeth a ffefrir yw’r ddogfen ffurfiol gyntaf yn y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd (LDP2). Mae Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion (LDP1) yn amlinellu polisïau cynllunio lleol y Cyngor a gwybodaeth ynglŷn â datblygu tir sydd wedi’i ddyrannu. Mae adolygiad ffurfiol wedi awgrymu bod angen diweddaru’r cynllun i adlewyrchu’r newidiadau yn y ddeddfwriaeth a’r wybodaeth newydd a ddaeth i law ers iddo gael ei fabwysiadu yn 2013.

Ar yr un pryd â’r ymgynghoriad ynghylch y strategaeth a ffefrir, mae’r Cyngor yn cyhoeddi ail wahoddiad i berchnogion tir gyflwyno manylion safleoedd (‘Safleoedd Ymgeisiol’) i’w hystyried fel tir datblygu yng nghyfnod nesaf y cynllun. Yn benodol, byddai’r Cyngor yn croesawu safleoedd sy’n gysylltiedig â’r Canolfannau Gwasanaeth arfaethedig sydd wedi’u rhestru yn y strategaeth a ffefrir. Mae gwybodaeth ynglŷn â’r drefn ar gyfer cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol i’w gweld ar wefan y Cyngor.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio. Dywedodd, “Amcan yr ymgynghoriad hwn yw cynnwys y cyhoedd wrth fynd ati i gynllunio mewn modd cadarnhaol at y dyfodol. Rydym am sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddweud eu dweud. Dyma eich cyfle i wneud yn siŵr bod y cynllun yn ystyried anghenion trigolion Ceredigion.”

Gallwch weld holl fanylion yr ymgynghoriad drwy fynd at www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/ neu gallwch fynd i Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA yn ystod oriau swyddfa.

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r broses ymgynghori, dogfennau’r Strategaeth a Ffefrir neu’r drefn ar gyfer cyflwyno safleoedd ymgeisiol, cysylltwch â’r Tîm Polisi Cynllunio drwy e-bostio ldp@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 572123.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan hanner dydd ar 12 Medi 2019.

 

02/07/2019