Mae Grŵp Strategaeth Anableddau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion am glywed eich barn am wasanaethau anableddau dysgu i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu a'u gofalwyr.

Mae’r Grŵp am wybod beth yw barn pobl am y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd ac am y gwasanaethau y byddent am eu defnyddio yn y dyfodol. Mae'r arolwg yn rhoi sylw i lawer o wahanol feysydd gan gynnwys lle mae pobl yn dymuno byw, yr hyn y maent yn dymuno ei wneud, a'r hyn y maent yn ei wneud i gadw'n iach.

Bydd yr arolwg dienw yn ddefnyddiol wrth geisio deall yr hyn y mae pobl ei angen yn awr ac yn y dyfodol, ac mae’r Grŵp yn awyddus i glywed oddi wrth gynifer o bobl â phosibl. Byddai'n arbennig o ddefnyddiol clywed gan bobl a all ddefnyddio gwasanaethau'n breifat.

Bydd yr holl adborth a ddaw o'r arolwg yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu strategaeth y byddwn yn ymgynghori yn ei chylch yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet a chyfrifoldeb am Wasanaethau Anabledd Dysgu, “Wrth i'n poblogaeth newid, mae'n bwysig bod y gwasanaethau'n parhau'n hollol addas i fodloni anghenion ein grwpiau cleientiaid. Hoffem i bobl felly roi gwybod inni am yr hyn sy'n dda am y gwasanaeth anableddau dysgu ar hyn o bryd ac am y math o wasanaeth yr hoffent ei weld yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan.”

Mae’r Grŵp hefyd am glywed oddi wrth ofalwyr pobl sydd ag anableddau dysgu, er mwyn deall yr hyn sy'n bwysig i bawb. Mae arolwg ar wahân ar gael i ofalwyr, a bydd y wybodaeth hon hefyd yn cael ei defnyddio i ddatblygu'r strategaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet a chyfrifoldeb am Wasanaethau Cymdeithasol, “Mae'n hollbwysig ein bod yn clywed barn y Gofalwyr wrth ddatblygu'r Strategaeth newydd hon. Yn rhinwedd fy swydd fel yr Eiriolwr dros Ofalwyr, byddwn yn annog cynifer â phosibl i ymateb i'r arolwg. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a’r Uned Gofalwyr.”

Gallwch ddod o hyd i'r arolwg ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, www.ceredigion.gov.uk/ymgynghoriadau a chlicio ar ‘Holiadur i ofalwyr pobl ag anableddau dysgu’.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a’r Uned Gofalwyr ar y ffôn 01970 633564 neu ebostiwch unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk.

Mae'r dyddiad cau wedi ei ymestyn i 23 Chwefror er mwyn caniatáu mwy o amser i drigolion y sir ymateb.

 

02/02/2018