Ar ddydd Llun 10 Ionawr, ymunodd James Starbuck â Chyngor Sir Ceredigion fel Cyfarwyddwr Corfforaethol.

Penodwyd James gan aelodau’r Cyngor ddydd Gwener 22 Hydref a bydd yn gweithio ochr yn ochr â Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, i arwain a rheoli grŵp o feysydd gwasanaeth i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau modern a chynaliadwy i’n cymunedau.

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr: “Rwy'n llongyfarch James ar ei benodiad. Bydd profiad helaeth James o arwain mewn Awdurdod Lleol ac yn y trydydd sector yn hollbwysig wrth i ni barhau i drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau gofal a chymorth, symud tuag at ffyrdd newydd o weithio, ac adeiladu ar ethos Tîm Ceredigion."

Treuliodd James ddechrau ei yrfa mewn Llywodraeth Leol yn gweithio mewn rolau ym maes cyllid ac yn y gwasanaethau hamdden. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn Brif Weithredwr ar ddwy ymddiriedolaeth elusennol fawr gwerth miliynau o bunnoedd, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG.

Dywedodd James Starbuck: “Rwyf wrth fy modd yn ymuno â thîm Ceredigion. Bydd natur drawsnewidiol ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn her ond drwy ei weithredu’n llwyddiannus bydd yn cael dylanwad ar iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol yn ein cymunedau a bydd hynny yn rhoi boddhad mawr.”

 

12/01/2022