Mae Pwyllgor newydd i atgyfnerthu gweithio rhanbarthol ar draws canolbarth Cymru wedi cynnal ei gyfarfod sefydlu.

Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn un o bedwar sy’n cael eu sefydlu ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru. Y nod yw atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio gwneud penderfyniad mewn tri maes allweddol.

Mae’r pwyllgor yn cynnwys Arweinwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (ar gyfer materion cynllunio) ac uwch gynrychiolwyr o’u sefydliadau.

Gwnaed nifer o apwyntiadau yn y cyfarfod cyntaf ddydd Mawrth (25 Ionawr). Mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei hethol yn gadeirydd am y 12 mis nesaf. Etholwyd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys, yn is-gadeirydd.

Bydd Dr. Caroline Turner Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys yn gwneud dyletswyddau Prif Weithredwr y pwyllgor ar gyfer blwyddyn gyntaf ei waith.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Bydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn adeiladu ar y trefniadau partneriaeth cryf sydd eisoes ar waith yn ein rhanbarth. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n gilydd er budd ein trigolion a’n busnesau.”

Mae’r pwyllgor wedi cael y dasg o ddatblygu trafnidiaeth ranbarthol, cynlluniau datblygu strategol a gwella lles economaidd.

Mae’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

The committee has been tasked with the development of regional transport, strategic development plans and improving economic wellbeing.

The Corporate Joint Committees are being introduced by the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.

26/01/2022