Mewn cyfarfod ar 15 Ionawr 2018, fe wnaeth llofnodwyr Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion ailddatgan eu hymrwymiad i’r Cyfamod Cymunedol a’r gwaith y mae yn ei wneud. Cynhaliwyd yr ailddatganiad yn Siambr y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron.

Llofnodwyd y Cyfamod Cymunedol yn gyntaf ym mis Ionawr 2013. Amcan y Cyfamod Cymunedol yw hybu cymunedau lleol i gefnogi’r gymuned Lluoedd Arfog yn eu hardal ac i ysgogi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ym mhlith y cyhoedd o faterion sydd yn effeithio ar y gymuned Lluoedd Arfog.

Dywedodd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion, y Cynghorydd Paul Hinge, “Mae’r Cyfamod Lluoedd Arfog Ceredigion wedi gwneud gwaith gwych dros y pum mlynedd ddiwethaf sydd wedi gwella gallu aelodau o’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd i gael y gwasanaethau sydd angen arnynt. Gan ein bod mewn tymor Cyngor newydd, teimlwyd gan Fforwm y Cyfamod mai nawr oedd yr amser i holl bartneriaid y Cyfamod i ailddatgan eu hymrwymiad i’r Cyfamod Lluoedd Arfog. Cafodd hwn ei gynnal yn Siambr y Cyngor gan ein hatgoffa o’r ymrwymiad gwnaethom yn ôl yn 2013.”

Mae llofnodwyr y Cyfamod yn cynnwys Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nyfed, Sara Edwards; Uchel Siryf Dyfed, Sue Balsom a Chadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Lynford Thomas. Mae llofnodwyr arall yn cynnwys cynrychiolwyr o Drydydd Bataliwn y Cymry Brenhinol; Prifysgol Aberystwyth; Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion; Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru; Y Lleng Prydeinig Brenhinol; Cymdeithas Milwyr, Morwyr, Awyr a’u Teuluoedd; Newid Cam; Tai Ceredigion; Tai Cymru a’r Gorllewin; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Hafal; Cyngor am Bopeth; Help for Heroes a Veterans Legal Link. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed Powys, Gyn-filwr i Gyn-filwr, Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru; yr Adran Gwaith a Phensiynau ac Un Llais Cymru hefyd yn llofnodwyr o’r Cyfamod Cymunedol.

19/01/2018