Mae ffermwr o Geredigion wedi cyfaddef euogrwydd yn llawn ac wedi derbyn rhybuddiad mewn perthynas â’r drosedd o ymyrryd â phrawf TB. Mae’r unigolyn hefyd wedi cyfaddef i drosedd arall yn ymwneud â lles anifeiliaid, o chwistrellu gyddfau pump o wartheg â sylwedd sy’n fath o ddiesel.

Cynhaliwyd prawf TB y fuches ym mis Rhagfyr 2016. Datgelodd ymchwiliadau fod ymyrraeth wedi bod ar y safle chwistrellu TB ar bum anifail. Cafodd y sylwedd a gafodd ei chwistrellu ei ddarganfod gan ddefnyddio technegau ymchwilio a oedd yn dangos yn glir bod sylwedd estron yn yr anifeiliaid. Gwiriwyd hyn gan ddefnyddio technegau fforensig datblygedig a wnaeth ganfod presenoldeb sylwedd sy’n fath o ddiesel.

Mewn datganiad a wnaed i swyddogion Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Ceredigion, fe gyfaddefodd yr unigolyn i’r troseddau o ganlyniad i bwysau ariannol cynyddol ar fusnes y teulu. Yr iawndal sylweddol a fyddai wedi cael ei dderbyn fesul anifail oedd y prif gymhelliad. Roedd y person a wnaeth gyflawni’r troseddau yn gwybod am eraill a oedd yn ymyrryd â phrofion TB a chymerodd gyngor o berson sydd – hyd yn hyn - yn anhysbys. Ar ôl ymweliad y milfeddyg i gynnal y prawf, gwnaeth y cyflawnwr chwistrellu’r gwartheg â hylif hydro-carbon ac efelychu canlyniadau prawf positif ar gyfer TB cyn i’r milfeddyg ddychwelyd i weld canlyniad y profion.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiogelu’r Cyhoedd, “Gweithiodd swyddogion o’r cyngor mewn partneriaeth â chydweithwyr o adrannau’r llywodraeth i nodi cyhuddiadau. Mae’r cyngor yn falch bod y mater wedi cael ei ddatrys trwy gyfaddef euogrwydd ac wedi ei setlo trwy rybuddiad.”

“Bydd y cyngor bob amser yn gweithio er budd y cyhoedd i ddod â throseddwyr o’r fath i gyfrif ac i dynnu sylw at weithredoedd twyllodrus o’r fath. Mae’n hollol annerbyniol bod yr arfer ffiaidd hwn yn digwydd, gan ei fod yn maeddu enw da pob ffermwr cyfrifol sy’n ufudd i’r gyfraith. Ni fydd y cyngor yn oedi cyn delio ag achosion o’r fath wrth iddynt godi, i ddifa gweithgarwch troseddol mor ddifrifol.”

17/12/2018