Dathlwyd llwyddiannau a chyflawniadau staff Cyngor Sir Ceredigion mewn cyfarfod Cyngor ar 21 Mehefin 2018.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, "Staff y Cyngor yw ei ased mwyaf. Er yr heriau ariannol dirfawr sydd wedi wynebu’r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf, mae teyrngarwch ein staff wedi sicrhau ein bod yn parhau i wasanaethu ein cymunedau yn effeithiol. Dw i’n ddiolchgar iawn am eu hymroddiad.”

Llongyfarchodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a'r Cadeirydd, y Cynghorydd Hag Harris yr aelodau canlynol o staff am eu cyflawniadau diweddar:

Gwasanaeth Twristiaeth Ceredigion

Ennill pum fanner las yn ogystal â phedair Gwobr Arfordir Glas a 13 Gwobr Glan Môr. Derbyniodd Cliff Bates y wobr ar ran Gwasanaeth Twristiaeth Ceredigion.

Amgueddfa Ceredigion

Ennill Gwobr Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ar gyfer ‘Amgueddfeydd a Threftadaeth’. Derbyniodd Carrie Canham y wobr ar ran yr Amgueddfa.

Dysgwyr Cymraeg

Cydnabuwyd pob un o’r 125 aelod o staff sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg yn ystod 2017/18.

Cymwysterau

Rhoddwyd llongyfarchiadau i’r canlynol ar dderbyn cymwysterau newydd sy’n cefnogi eu datblygiad proffesiynol yn y Cyngor:

Joanne Hudson, Sian Williams a Tracy Morgan, Tystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol (Porth Agored); Nicola Howard, Tystysgrif Ôl-radd Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol; Matthew Gray, Prince2 - Sylfaenol / Ymarferydd; Lynwen Watkins, Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol – Llythrennedd Digidol; Nicola Parry, Diploma Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes; Sue Walker, Lefel 3 mewn Atgyfeiriadau Generig at y Meddyg Teulu; Rebecca Beechey, NVQ Lefel 2 mewn Gwaith Clerigol a Gweinyddol; Llion Bevan, Tystysgrif Uwch mewn Cysylltiadau Cyhoeddus gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus; Rhian Dafydd a Ffion Lewis-Hughes, Prentisiaeth Lefel 3 mewn Defnyddwyr TG a Diploma Lefel 3 mewn Sgiliau Defnyddwyr TG a Sarah Evans a Melinda Williams, Prentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 mewn Busnes a Thechnoleg Gwybodaeth.

21/06/2018