Mae 'Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau' ym Mhenrhyn-coch yn dilyn gwaith adeiladu 'Cam 2' wedi ei gwblhau yn ddiweddar ar ddarn newydd y llwybr troed rhwng yr Ysgol a'r Swyddfa Bost a'r gwelliannau ar gyffordd ystâd breswyl Glan Ffrwd.

Cwblhawyd gwaith ‘Cam 1’ yn Hydref 2017 lle y cyflwynwyd parth 20 milltir yr awr newydd yng nghanol y pentref, gan gynnwys dwy fynedfa yr ysgol lle y gwellwyd y cynllun, a gweithredwyd mesurau lleddfu traffig er mwyn helpu i leihau cyflymdra cerbydau yn y pentref. Yn ogystal, rhoddwyd dau sgwter newydd a helmedau i'r Ysgol er mwyn hyrwyddo rhagor o deithiau Teithio Llesol i ac o'r ysgol, ac er mwyn helpu i leihau nifer y plant sy'n byw yn y pentref ac sy'n cael eu gyrru i'r ysgol mewn car, sef un o brif nodau'r cynllun hwn.

Dywedodd Cynghorydd Sir Ward Trefeurig, y Cynghorydd Dai Mason, “Rydw i'n falch iawn gweld y gwaith hwn yn cael ei gwblhau ym Mhenrhyn-coch ac yn IBERS gan bod y rhain yn welliannau gwych i breswylwyr a chyflogeion lleol sy'n gweithio yn yr ardal. Hoffwn ddiolch i'r staff Priffyrdd am ddatblygu'r cynlluniau yma, am drafod y camau caffael tir perthnasol ac am sicrhau'r cyllid ar ffurf grant gan Lywodraeth Cymru.”

Mae'r cynllun wedi costio £175,000 ac fe'i ariannwyd gan grant cyfalaf Llywodraeth Cymru, a darparwyd cyllid cyfatebol gan y Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Cymuned Trefeurig. Ariannwyd ychydig o waith ailosod wyneb ychwanegol gan gyllideb gwella priffyrdd y Cyngor Sir.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Technegol, y Cynghorydd Sir Ray Quant MBE, “Mae'r rhain yn welliannau o ansawdd uchel a gyflawnwyd gan gontractwyr lleol ar ran Cyngor Sir Ceredigion, y byddant yn cynnig budd i'r gymuned leol. Yn ogystal, mae swyddogion priffyrdd wedi datblygu cynigion ar gyfer darpariaeth llwybrau cerdded a beicio pellach rhwng Bow Street ac IBERS a Phenrhyn-coch er mwyn helpu i gysylltu'r cymunedau hyn a chysylltu â'r Gyfnewidfa Trafnidiaeth a Gorsaf Rheilffordd newydd yn Bow Street. Bydd trafodaethau'n parhau gyda Phrifysgol Aberystwyth ynghylch tir a bydd swyddogion yn datblygu ceisiadau pellach am grant er mwyn gweithredu'r cynigion hyn, a fydd yn helpu lles ein preswylwyr a chenedlaethau'r dyfodol.”

Mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau £300,000 ychwanegol gan grant Cronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru, sydd wedi ariannu gwelliant priffyrdd C1010 ger y gyffordd â ffordd A4159 yn IBERS ym Mhlas Gogerddan. Sicrhawyd tir gan Brifysgol Aberystwyth i ledaenu'r ffordd a darparu darn newydd o lwybr troed a fyddai'n ddwy fetr o led.

Lluniau

Gwelliant y ffordd C1010 IBERS gyda'r Cynghorydd Ray Quant MBE a'r Cynghorydd Dai Mason.

Y Cynghorydd Dai Mason ym Mhenrhyn-coch yn dangos y cyswllt troedffordd newydd rhwng Swyddfa'r Bost a'r Ysgol.

01/05/2018