Mae rhai newidiadau pwysig o'n blaenau o ran mesurau Covid-19 a gwybodaeth am y rhaglen frechu.

Dyma grynodeb o'r hyn sydd angen i chi ei wybod:

• Pàs COVID y GIG

O 11 Hydref ymlaen, mae'n rhaid i chi ddefnyddio Pàs COVID y GIG i ddangos eich bod chi wedi cael cwrs llawn y brechlyn neu wedi cael canlyniad negatif (drwy gymryd prawf llif unffordd 48 awr cyn mynychu digwyddiad neu leoliad) er mwyn mynychu digwyddiadau mawr, clybiau nos a lleoliadau tebyg eraill.

Gallwch gael Pàs COVID y GIG ar: https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/.
Bydd angen i chi gofrestru â’r GIG cyn cael eich pàs. Cofiwch hyn cyn unrhyw ddigwyddiad mawr rydych yn bwriadu ei fynychu.

Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau ynglŷn â’r gofynion o ran pàs COVID y GIG ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/cardiau-gweithredu-mesurau-rhesymol-ar-gyfer-busnesau-sefydliadau-coronafeirws?_ga=

Profion COVID-19 ar gyfer plant a phobl ifanc ac ar gyfer staff sy'n gweithio mewn ysgolion a cholegau arbennig

O ddydd Llun 11 Hydref ymlaen, dylai staff mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau, a dysgwyr sydd o dan 18 oed mewn ysgolion uwchradd a cholegau gymryd prawf llif unffordd bob dydd am saith diwrnod pan fo aelod o'u cartref yn profi'n bositif am COVID-19, yn ogystal â chymryd profion PCR ar Ddiwrnod 2 a Diwrnod 8.

Dylai hyn ddechrau ar y diwrnod y cafodd aelod o’r cartref gadarnhad o ganlyniad prawf llif unffordd neu PCR positif.

Profi plant o dan 5 oed

Ni argymhellir bellach bod plant o dan 5 oed yn cymryd profion COVID-19 os nad oes ganddyn nhw symptomau.

Pan fo gan blant o dan 5 oed symptomau, nid yw Llywodraeth Cymru yn argymell profion fel rheol, oni bai bod meddyg yn dweud y dylid cymryd prawf neu fod y rhieni'n credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er lles gorau'r plentyn.

Brechiad atgyfnerthu

Bydd y rheini sy’n gymwys am frechiad atgyfnerthu yn derbyn gwahoddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fynychu Canolfan Frechu Dorfol yn eu tro, h.y. y rheini sydd wedi derbyn ail ddos y brechlyn dros 6 mis yn ôl.

Efallai eich bod wedi cael apwyntiad yn un o ganolfannau brechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd ymhellach i ffwrdd, ond gallwch fynd i'ch canolfan agosaf ar adeg sy'n addas i chi. Ni fydd angen i chi gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymlaen llaw.

Cofiwch ddod â’ch llythyr apwyntiad gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

Brechlyn i bobl ifanc 12-15 oed

Mae pobl ifanc 12-15 oed yng Ngheredigion yn dechrau derbyn gwahoddiadau gan y Bwrdd Iechyd i fynychu Canolfan Brechu Torfol yn eu tro.

Efallai eich bod wedi cael apwyntiad yn un o ganolfannau brechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd ymhellach i ffwrdd, ond gallwch fynd i'ch canolfan agosaf ar adeg sy'n addas i chi. Ni fydd angen i chi gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymlaen llaw.

Cofiwch ddod â’ch llythyr apwyntiad gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

Heb gael eich brechu eto?
Efallai eich bod wedi gwrthod y brechlyn o'r blaen ond wedi newid eich meddwl ers hynny – nid yw’n rhy hwyr i gael eich brechu. Mae clinigau galw heibio yn parhau i fod ar agor ym mhob Canolfan Brechu Torfol ar gyfer pobl 16 oed neu’n hŷn sydd angen dos cyntaf neu ail ddos. Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan agosaf yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/canolfannau-brechu-torfol/

Nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac mae angen i ni i gyd wneud ein rhan i gadw ein gilydd yn ddiogel.

08/10/2021