Bydd pecyn cymorth busnes ariannol Llywodraeth Cymru o Grantiau Busnes dan Gyfyngiadau Symud sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau cloi presennol yn agor ar gyfer ceisiadau newydd ddydd Mercher 13 Ionawr am 10.00am.

Bydd busnesau lletygarwch, manwerthu dianghenraid, twristiaeth, hamdden a busnesau'r gadwyn gyflenwi yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol.

Hyd yma gwnaed £3.3m o daliadau uniongyrchol i 989 o fusnesau yng Ngheredigion. Gwnaed y taliadau hyn i fusnesau yn y sectorau cymwys ar gyfer y Grant Busnes Cyfyngiadau a oedd wedi gwneud cais llwyddiannus o'r blaen am y Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Symud yn ystod y cyfnod Atal Byr ym mis Hydref. Nid oes angen i'r busnesau hyn ail-ymgeisio.

Bydd angen i bob busnes cymwys arall yn y sectorau Lletygarwch, Manwerthu Dianghenraid, Twristiaeth, Hamdden gan gynnwys y sectorau Cadwyn Gyflenwi yng Ngheredigion (sy'n gysylltiedig â'r busnesau Lletygarwch a Manwerthu  Dianghenraid ) wneud cais a chwblhau ffurflen gais byr ar-lein.

Bydd y broses ymgeisio hon yn agor ddydd Mercher 13 Ionawr am 10.00am a gellir dod o hyd i ragor o fanylion am feini prawf y cynllun, y canllawiau a'r ffurflen gais ar wefan y Cyngor. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cronfa Cymorth Penodol i’r Sector Cronfa Cadernid Economaidd yn agor ganol dydd, 13 Ionawr. Gweinyddir y gronfa hon yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac mae angen i ymgeiswyr fynd trwy'r porth Busnes Cymru i wneud cais. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a chymorth ariannol arall sydd ar gael ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu wefan Busnes Cymru.

13/01/2021