Bydd teuluoedd a ffrindiau yn gallu ymweld â’u hanwyliaid unwaith eto yng Nghartrefi Gofal Preswyl Cyngor Sir Ceredigion.

Mae preswylwyr cartrefi Ceredigion yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd a ffrindiau. Mae’r Cyngor yn sicrhau bod cartrefi gofal yn ailagor yn araf ac yn ddiogel drwy alluogi ymweliadau wedi’u trefnu.

O ddydd Llun 27 Gorffennaf ymlaen, bydd teuluoedd a ffrindiau yn gallu ymweld yn yr awyr agored.

Dyma’r cartrefi gofal preswyl dan sylw:

  • Cartref Gofal Preswyl Bryntirion, Tregaron;
  • Cartref Gofal Preswyl Tregerddan, Bow Street;
  • Cartref Gofal Preswyl Min Y Môr, Aberaeron;
  • Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan;
  • Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod, Aberteifi.

Er mwyn gallu cynnal ymweliadau mewn ffordd ddiogel y gellir ei rheoli, mae canllawiau clir ar waith i’w dilyn. Mae’r protocolau hyn yn cynnal lles a diogelwch y preswylwyr, y staff a’r ymwelwyr wrth ailagor i ymwelwyr.

Trefnu slot

Gellir trefnu slotiau 30 munud o hyd o ddydd Gwener 24 Gorffennaf ymlaen drwy gysylltu â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid Clic Ceredigion.

  • Ffoniwch 01545 570881
  • neu ebostiwch clic@ceredigion.gov.uk

Bydd uchafswm o 2 aelod o deulu o’r un aelwyd yn gallu ymweld ar un adeg. Dim ond un slot y caniateir i deulu/ffrindiau pob preswylydd ei archebu er mwyn sicrhau bod pob preswylydd yn cael cyfle i gael ymweliad. Os oes apwyntiadau ychwanegol ar gael, gall y gwasanaeth adolygu hyn.

Anogir teuluoedd a ffrindiau sy’n dymuno trefnu ymweliad i beidio â chysylltu â’r cartref yn uniongyrchol. Mae staff y cartrefi yn sicrhau bod gofal yn parhau i gael ei ddarparu’n ddiogel i’r preswylwyr ac nid ydynt yn gallu trefnu’r ymweliadau.

Mae slotiau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Ni chaniateir ymweliadau heb drefnu ymlaen llaw gyda Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid Clic Ceredigion.

22/07/2020