Bydd llety hunangynhwysol i ymwelwyr yn dechrau ailagor yng Nghymru o 11 Gorffennaf ymlaen.

Mae hyn yn cynnwys llety sy’n gwbl hunangynhwysol, gan gynnwys bythynnod gwyliau, carafanau, faniau gwersylla, a rhai llety glampio gyda chegin a chyfleusterau ymolchi nad oes angen eu rhannu â gwesteion eraill. Ni chaniateir i gyfleusterau cymunedol gael eu defnyddio.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda’r sector twristiaeth i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb cymdeithasol, bod cymunedau lleol yn cael eu parchu a bod ymwelwyr yn dod yn rhan o’r gymuned wrth ymweld â Cheredigion.

Mae’r Cyngor wedi casglu gwybodaeth ynghyd i weithredwyr llety ymwelwyr ei rhannu gyda’u gwesteion. Y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn mwynhau eu hamser yng Ngheredigion, ond hefyd yn parchu’r cymunedau lleol ar yr un pryd. Anogir ymwelwyr i aros mor lleol â phosib, cefnogi’n lleol, cynnal hylendid dwylo a sicrhau eu bod yn cynnal pellter cymdeithasol.

Mae marc safon ac ansawdd y diwydiant, ‘Barod Amdani’, yn golygu y gall busnesau ddangos eu bod yn dilyn amrywiol ganllawiau’r Llywodraeth a chanllawiau iechyd cyhoeddus; maent wedi cynnal asesiad risg ar gyfer COVID-19 ac wedi gwirio bod ganddynt y prosesau gofynnol ar waith. Gall pob busnes ar draws y diwydiant ymuno â’r cynllun yn rhad ac am ddim.

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu, felly mae angen i ni fod yn ofalus wrth lacio’r cyfyngiadau. Anogir y sector i agor yn araf ac yn ofalus er mwyn sicrhau iechyd pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr.

Rhoddwyd caniatâd i atyniadau ymwelwyr yn yr awyr agored ailagor o 6 Gorffennaf ymlaen.

Cadwch Ceredigion yn Ddiogel.

Tudalen Coronafeirws.

Barod Amdani.

10/07/2020