Mae Ceredigion yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr yn ôl yn ddiogel i'r sir yr wythnos hon ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Er mwyn cynnal diogelwch pawb, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd â champws yn Llanbedr Pont Steffan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phartneriaid eraill i sicrhau bod mesurau ar waith i ddiogelu myfyrwyr, trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae achosion o’r coronafeirws yn parhau i gynyddu yn y sir, felly anogir pawb i fod yn wyliadwrus a dilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu ei gilydd.
Gall myfyrwyr ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau o ran COVID-19 yn eu prifysgol ar wefan Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Hunanynysu a chael prawf
Os bydd unigolyn yn datblygu unrhyw symptomau o’r coronafeirws, rhaid hunanynysu yn syth am 10 diwrnod a threfnu prawf PCR trwy fynd i borth Llywodraeth y DU neu ffonio 119. Mae’r prif symptomau yn cynnwys tymheredd uchel, peswch newydd parhau a cholled neu newid i flas neu arogl.
Er mwyn helpu i nodi achosion cudd o COVID-19 yn ein cymunedau wrth i amrywiolion newydd o’r feirws ymddangos, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd yn annog pobl i gael prawf os oes ganddynt unrhyw un o’r symptomau canlynol a’u bod yn newydd, yn barhaus a/neu yn anghyffredin:
- symptomau annwyd ysgafn yr haf, gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
- symptomau tebyg i'r ffliw, gan gynnwys myalgia (poen yn y cyhyrau); blinder eithafol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu’n dynn; tisian parhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian; cyfogi; neu ddolur rhydd
- teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cyswllt ag achos hysbys o COVID-19
- unrhyw newid mewn symptomau neu symptomau newydd yn dilyn prawf negyddol blaenorol
Mynnu eich brechlyn
Y ffordd orau o ddiogelu eich hun ac eraill rhag y coronafeirws yw cael eich brechu.
Mae modd cael y dôs cyntaf neu’r ail o’r brechlyn rhag COVID-19 trwy fynd i glinigau galw heibio yn y lleoliadau canlynol:
- Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth,SY23 3AS
- Ysgol Trewen, Cwm-cou SA38 9PE
Mae rhagor o fanylion am y clinigau uchod ac eraill gan Hywel Dda ar gael yma: Canolfannau Brechu Torfol
Dylai pawb gofio golchi eu dwylo yn rheolaidd, gwisgo masg lle bo angen a chadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl eraill pan fo angen.
Mae’r holl wybodaeth, cyngor a chymorth diweddaraf sy’n berthnasol i Geredigion ar gael ar ein gwefan.
Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.
23/09/2021