Mae Parthau Diogel wedi cael eu creu mewn pedwar canol tref yng Ngheredigion i greu ardal agored a diogel.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu Parthau Diogel yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Chei Newydd. Pwrpas y Parthau Diogel yw creu gofod lle gall pobl gerdded o gwmpas yn ddiogel ac yn hyderus a gallu mwynhau’r hyn sydd gan ein trefi i’w cynnig wrth i ymwelwyr gyrraedd.

Wrth i wyliau’r haf ddechrau, lleoedd yn dechrau ailagor a phobl yn dechrau teithio, bydd poblogaeth Ceredigion yn dyblu gydag ymwelwyr. Rydym yn ymwybodol bod nifer uchel wedi archebu gwyliau ar gyfer yr wythnos nesaf, a bydd ein trefi’n prysuro. Mae hyn yn golygu bod y perygl i'r cyhoedd yng Ngheredigion yn cynyddu.

Cyflwynwyd y mesurau hyn fel y camau nesaf yn ymdrechion Ceredigion i gadw lefel y coronafeirws yn y sir mor isel â phosibl. Mae’r Parthau Diogel yn creu lle i sicrhau y gellir cynnal pellter cymdeithasol mewn trefi wrth i fwy o bobl ymweld. Mae gan drefi Ceredigion strydoedd cul, felly mae angen cau’r ffordd i draffig er mwyn sicrhau bod digon o le i siopwyr ac ymwelwyr fwynhau’r trefi’n ddiogel a’u bod yn gallu cadw at y gofyniad o gynnal pellter cymdeithasol.

Rydym yn gweithio gyda busnesau i greu lle yn yr awyr agored i bobl ei fwynhau. Gyda mesurau y mae busnesau wedi'u rhoi ar waith, ynghyd â gofyn i drigolion a'r gymuned ymwelwyr bellhau'n gymdeithasol, credwn fod y parthau diogel yn darparu'r lle iawn i bobl ymweld â'n trefi a'u defnyddio'n ddiogel ond mewn ffordd gwahanol. Dyma gyfle i achub ar y cyfle i gael parcio am ddim mewn meysydd parcio dynodedig a chrwydro i fwynhau a chefnogi’n lleol.

Diolchwn i bawb sydd wedi cysylltu â ni i rannu eu safbwyntiau. Yn dilyn yr adborth hwn, gwnaed rhai newidiadau lle bo hynny’n briodol er mwyn gwella’r trefniadau cyn i’r mewnlifiad o ymwelwyr gyrraedd o’r penwythnos hwn ymlaen. Defnyddiwyd Pwerau Brys i greu’r Parthau Diogel er mwyn sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol ar waith wrth i’r sector twristiaeth a lletygarwch ailagor yr wythnos hon. Rhannwyd gwybodaeth gyda’r cyhoedd a busnesau cyn gynted â phosibl.

Diolchwn i drigolion Ceredigion am gadw at y rheoliadau ac am gadw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn gymharol isel.

Cadwch Ceredigion yn Ddiogel.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y Parthau Diogel, gan gynnwys Cwestiynau ac Atebion, ar gael ar wefan y Cyngor.

17/07/2020