Yn dilyn cyngor y Llywodraeth ar ynysu cymdeithasol mewn ymateb i Coronafeirws COVID-19, mae swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ar gau i’r cyhoedd.

Mae mwyafrif y staff swyddfa nawr yn gweithio o adref er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein staff, yn ogystal ag i atal lledaeniad Coronafeirws. Nid yw’r Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid felly yn medru rhoi eich galwad trwyddo i’r swyddog priodol. Efallai y byddwn yn gofyn am eich manylion, cymryd neges a gofyn i’r swyddog priodol eich ffonio yn ôl. Gobeithio eich bod yn deall y drefn yma yn y cyfnod heriol rydym ynddi a diolchwn i chi am eich amynedd.

Mae dros 800 o alwadau wedi cyrraedd Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid heddiw yn unig. Dyma nifer uchel ofnadwy o alwadau gyda cyn lleied o staff. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ymateb i'ch ymholiadau cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, gall fod peth oedi gan ein bod ni yn derbyn nifer uchel iawn o ymholiadau ar hyn o bryd.

Medrwch gael diweddariadau rheolaidd ar wefan y Cyngor yma: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws. Hefyd, gallwch ddilyn y wybodaeth ddiweddaraf drwy Facebook, Trydar ac Instagram.

Os ydych angen cysylltu â’r Cyngor, gallwch wneud hynny drwy'r Ganolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570 881 neu drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.

23/03/2020