Mae hwn yn gyfnod heriol sy’n achosi straen i nifer o drigolion yng Ngheredigion gan fod y Coronafeirws yn cael effaith sylweddol ar yr economi.

Mae Treth y Cyngor yn talu am wasanaethau hanfodol sy’n cael eu darparu i holl drigolion Ceredigion, gan gynnwys Addysg, y Gwasanaeth Tân a’r Heddlu, Gwasanaethau Plant ac Oedolion, Cofrestru genedigaethau a marwolaethau, Casglu Gwastraff, a Ffyrdd. Os nad yw eich amgylchiadau chi wedi newid, bydd angen parhau â’r taliadau fel y nodir yn eich bil.

Os ydych yn cael trafferth i dalu eich taliadau Treth y Cyngor oherwydd yr amgylchiadau presennol, gallwn weithio gyda chi i sicrhau eich bod chi’n ymwybodol o’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae’r opsiynau’n cynnwys y canlynol:

  • Gallwch wneud cais am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor
  • Gellir ystyried trefniadau talu amgen i’r 10 rhandaliad misol safonol ar gyfer Treth y Cyngor. Gall hyn gynnwys lleihau eich taliad misol drwy rannu eich rhandaliadau dros 12 mis yn hytrach na 10 mis (mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021)
  • Gallwch ofyn am ‘wyliau Treth y Cyngor’ ar gyfer mis Ebrill a mis Mai 2020. Bydd eich bil blynyddol ar gyfer 2020/21 yr un fath, ond bydd eich rhandaliadau yn dechrau eto ym mis Mehefin tan fis Mawrth 2021

Er mwyn trafod yr opsiynau sydd ar gael i chi os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â’r Cyngor ar 01970 633253 neu anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk. Mae ein canolfan gyswllt yn derbyn nifer uchel o alwadau ar hyn o bryd, felly byddem yn gwerthfawrogi pe gallech fod yn amyneddgar.

Byddai angen i’r Llywodraethau wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch newidiadau dros dro i gasglu Treth y Cyngor. Os bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi unrhyw fesurau pellach, byddwn yn diweddaru ein gwefan yn unol â hynny.

Premiwm Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi

Nid oes unrhyw newid i Bremiwm Treth y Cyngor sy’n cael ei godi ar berchnogion ail gartrefi yn y sir ar hyn o bryd yn sgil y coronafeirws. Mae cyfradd isel gwerth 25% o bremiwm Treth y Cyngor yn cael ei godi ar berchnogion ail gartrefi, gyda’r premiwm wedi’i gyflwyno’n wreiddiol dair blynedd yn ôl.

Mae tua 1,700 o ail gartrefi yng Ngheredigion, a’r prif nod o gyflwyno’r premiwm dair blynedd yn ôl oedd cynyddu’r nifer o dai fforddiadwy sydd ar gael yn y sir a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

Dylai unrhyw drethdalwr sy’n profi anawsterau ariannol drafod ei amgylchiadau â’r Cyngor trwy gysylltu â ni ar 01970 633253 neu anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

 

27/03/2020