Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymateb i sefyllfa parhaus Coronafeirws (COVID-19) drwy gymryd camau rhagweithiol a rhoi cynlluniau priodol ar waith.

Cyflwynwyd mesurau o fewn yr awdurdod i sicrhau bod y staff yn ddiogel a’u bod yn medru parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl Ceredigion.

  • Mae Grŵp Rheoli Aur COVID-19 Cyngor Sir Ceredigion yn cwrdd bob wythnos ac mae’r is-grwpiau yn cwrdd bob dydd i drafod y datblygiadau diweddaraf o ran y Coronafeirws a’r ffordd orau o ddelio â’r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.
  • Yn dilyn cyngor COBRA, cynghorir y rheiny sy’n 70 oed neu’n hŷn, y rheiny sydd ag afiechyd cronig a menywod beichiog i weithio o gartref.
  • Rhoddir cyngor ac arweiniad i’r staff gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio mewn ysgolion, canolfannau adnoddau a chartrefi gofal. Lle bo’n briodol, darperir cyfarpar diogelu a chynnyrch diogelwch ar eu cyfer.
  • Mae’r ffreutur ym Mhenmorfa, Aberaeron a’r ffreutur yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth wedi cau am y tro. Gwneir hyn i sicrhau bod y gweithlu yn ddigon gwydn i gefnogi gwasanaethau ar gyfer y defnyddwyr mwyaf bregus.
  • Os bydd staff neu blant mewn ysgol benodol yn dangos symptomau, bydd yr ysgol honno yn cael ei glanhau’n drylwyr. Lle bo angen, caiff yr ysgol ei chau er mwyn ei glanhau.
  • Datblygwyd protocol ar gyfer Cartrefi Gofal Ceredigion. Mae’r protocol hwn yn nodi y dylid atal ymweliadau gan blant, canslo gweithgareddau ac atal darparwyr adloniant ar unwaith. Hefyd, mae’n rhybuddio y gallai ymweliadau â’r cartrefi gael eu cyfyngu yn ystod yr wythnosau nesaf.
  • Bydd digwyddiadau yn yr ysgolion, Theatr Felinfach ac Amgueddfa Ceredigion yn cael eu canslo am y tro. Hefyd, ni fydd sesiynau’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn cael eu cynnal.
  • Mae cyfarfodydd y tu allan i’r sir a’r holl sesiynau hyfforddi na ystyrir eu bod yn rhai hanfodol wedi’u canslo. Rydym yn cynnal nifer cynyddol o gyfarfodydd drwy systemau tele-gynadledda a dulliau digidol eraill.
  • Atgoffir gweithwyr sy’n casglu sbwriel bod angen iddynt wisgo’r menig a’r dillad priodol ar bob adeg.
  • Cynghorir y rheiny sy’n hunanynysu i roi dau fag o amgylch eu gwastraff.
  • Bydd y gwasanaeth llyfrgell symudol yn rhoi’r gorau iddi am y tro.
  • Bydd Porth y Gymuned yn cadw mewn cysylltiad ag unigolion bregus.
  • Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch y posibilrwydd y gallai staff o wasanaethau nad ydynt yn rhai hanfodol gefnogi’r cynnydd yn y galw mewn gwasanaethau eraill. Caiff y staff eu hyfforddi a’u cefnogi lle bo angen.
  • Mae Grŵp Rheoli Aur COVID-19 Cyngor Sir Ceredigion yn paratoi cynlluniau ar y cyd â’r partneriaid statudol a’r timau cynllunio wrth gefn er mwyn sicrhau bod modd i’r gwasanaethau hanfodol barhau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae gwaith Grŵp Rheoli Aur COVID-19 Cyngor Sir Ceredigion yn hanfodol wrth baratoi’r sir i fynd i’r afael â’r Coronafeirws. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod ganddo ddyletswydd gofal i’w weithwyr, pawb sy’n dod i gysylltiad â ni a phobl Ceredigion yn gyffredinol. Caiff y staff y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa wrth iddi ddatblygu. Bydd y staff wedyn yn cysylltu â’r defnyddwyr gwasanaeth perthnasol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r newidiadau.”

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru a bydd yn dilyn unrhyw ganllawiau a ddaw oddi wrthynt. Os bydd cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn newid, bydd y Cyngor yn dilyn y cyngor ac yn cymryd y camau gweithredu priodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd ap Gwynn, “Does dim dwywaith y bydd y Coronafeirws yn effeithio arnom ni gyd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Dylai’r cyhoedd daro golwg ar gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru bob dydd ac os oes ganddynt unrhyw symptomau, dylent hunanynysu am 14 diwrnod.”

Mae’r holl wybodaeth a chyngor diweddaraf ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://phw.nhs.wales/coronavirus.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yng Ngheredigion ar gael ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/coronavirus. Hefyd, mae’r Cyngor yn rhannu gwybodaeth a ddaw i law oddi wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei gyfryngau cymdeithasol.

17/03/2020