Mae clybiau a sefydliadau chwaraeon yng Ngheredigion wedi elwa o dros £126,000 o gyllid yn ystod 2017/18 trwy Grantiau Datblygu a Grantiau Cist Gymunedol, wedi’i wobrwyo gan Chwaraeon Cymru a’i ddarparu gan Ceredigion Actif.

Mae'r Gist Gymunedol yn cynnig grant hyd at £1,500 ar gyfer gweithgareddau sy'n annog pobl i fod yn fwy actif. Gall y grant hefyd gael ei ddefnyddio i dalu am hyfforddiant gwirfoddolwyr ac addysg hyfforddwr, marchnata, costau i sefydlu’r clwb ac offer newydd.

Gall clybiau a sefydliadau hefyd geisio am hyd at £25,000 o’r cynllun Grant Datblygu Chwaraeon Cymru. Mae’r grant yma am weithgareddau y gall helpu i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan a gwella safonau perfformiad mewn chwaraeon. Gall y grant dalu am eitemau offer mawr a datblygiad.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Er taw Ceredigion sydd gyda’r tîm datblygu lleiaf ar draws Cymru, mae’n sir ni wedi bod yn un o’r mwyaf rhagweithiol yn derbyn arian grant ar gyfer clybiau chwaraeon ar lawr gwlad. Mae Ceredigion Actif yn gweithio’n galed iawn i fod yn rhwydwaith cefnogol i’r amryw o glybiau chwaraeon. Felly os yw eich clwb wedi ei sefydlu yn barod neu newydd ddechrau, gall y tîm ddarparu cyngor a gwybodaeth, yn enwedig am y cyllid posib y gall eich clwb elwa ohono.”

Cysylltwch â Steven Jones ar 01970 633 587 neu stevenj@ceredigion.gov.uk i drafod sut gall Ceredigion Actif helpu eich clwb. Y dyddiad cau nesaf yw 17 Ionawr 2019 a cheir rhagor o wybodaeth ar wefan Ceredigion Actif: http://www.ceredigionactif.org.uk/fundingc.html

20/11/2018