Llongyfarchiadau mawr i holl Ddysgwyr Cymraeg Ceredigion ar eu llwyddiant yng nghystadlaethau llwyfan, llên a chelf a chrefft yn Eisteddfod y Dysgwyr yn Aberhonddu yn ddiweddar.

Enillodd Parti Canu Ceredigion y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Parti Canu gyda Meryl Evans, Rheolwr Addysg Gymunedol: Pennaeth Dysgu Cymraeg yn arwain a Gwyneth Davies, Tiwtor Dysgu Cymraeg yn cyfeilio. Hefyd, enillodd y grŵp y wobr gyntaf am eu cân hwyliog am wyliau yn y Caribî.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn longyfarch yr holl Ddysgwyr Cymraeg o Geredigion am eu hymdrech a’u penderfyniad aruthrol, nid yn unig i wneud y cam cyntaf wrth ddysgu Cymraeg, ond hefyd i gystadlu yn Eisteddfod y Dysgwyr. Rwy’n siŵr y bydd y llwyddiannau hyn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu hyder a’u mwynhau ymhellach wrth ddefnyddio’r iaith. Diolch yn fawr iawn i’r holl diwtoriaid am annog a chefnogi’r dysgwyr i gystadlu yn y digwyddiad diwylliannol hwn”.

12/04/2019