Ar 12 Mawrth, Diwrnod y Gymanwlad, cafodd baner y Gymanwlad ei chodi yn swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron i chwifio a dathlu’r teulu o genhedlau sy’n cwmpasu’r ddaear.

Fel mynegiant cyhoeddus o’r ymrwymiad i’r Gymanwlad, darllenwyd darn o Gadarnhad y Gymanwlad gan Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Lynford Thomas, cyn i’r faner gael ei chodi.

Dyweddodd y Cynghorydd Lynford Thomas, “Mae Diwrnod y Gymanwlad yn ddiwrnod o undod, a thrwy chwifio'r faner, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dangos cefnogaeth ac undeb â gwledydd eraill y Gymanwlad ledled y byd.”

Mae menter Chwifio’r Faner i’r Gymanwlad yn galluogi’r cyfranogwyr i ddangos eu gwerthfawrogiad i’r gwerthoedd y mae’r Gymanwlad yn ategu, a’r cyfleoedd a chynigwyd am gyfeillgarwch a chydweithrediad gyda cyd-ddinasyddion y Gymanwlad, yn ifanc ac yn hŷn, o gwmpas y byd.

Dywedodd Ysgrifennydd-Cyffredinol Cymanwlad y Cenedlaethau, Y Gwir Anrhydeddus Patricia Scotland QC, “Mae Chwifio’r Faner yn gyfle hyfryd i gymunedau lleol ddod at ei gilydd i ddathlu’r amrywiaeth a’r cynhwysiant o’r Gymanwlad, a’r nifer o ffyrdd y mae bywydau a bywoliaeth ei 2.4 biliwn o ddinasyddion yn cael eu cyfoethogi trwy gysylltiad a chydweithrediad y Gymanwlad. Drwy weithio gyda’n gilydd yn lleol ac yn fyd-eang, rydym yn dysgu oddi wrth ein gilydd, ac yn gwneud gwelliant er lles pawb.”

Mae thema'r flwyddyn yma, ‘Tuag at Ddyfodol Gyffredin’, yn archwilio sut gall y Gymanwlad gyfeirio heriau byd-eang a gweithio i greu dyfodol gwell i’r holl ddinasyddion trwy is-themau o gynaliadwyedd, diogelwch, ffyniant a thegwch.

12/03/2018