Roedd yr haul yn gwenu yng Ngheredigion heddiw wrth i’r sir estyn croeso i’r Tour of Britain ar ddechrau pedwerydd cymal y ras.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Am ddiwrnod heulog hyfryd i groesawu beicwyr, trefnwyr a dilynwyr y Tour of Britain i Geredigion. Rhaid canmol y naws gadarnhaol a gafwyd yn Aberaeron ac ar hyd y ffordd wrth i’r gwylwyr fwynhau’r haul a chadw pellter. Gallwn fod yn falch fel sir o gael cynnal y ras fawreddog hon. Llongyfarchiadau i Gruff Lewis o Dal-y-bont, Pencampwr Beicio Ffordd Cymru, a oedd yn cymryd rhan heddiw ac a enillodd y sbrint yn y Borth a dymunwn yn dda iddo ar gyfer gweddill y ras.”

Wrth sylwebu, soniodd darlledwyr y ras, ITV4 am y “teimlad cynnes” oedd i’w brofi yn Aberystwyth a thrwy gydol y cymal.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod o’r Cabinet dros Economi ac Adfywio: “Mae pedwerydd cymal y Tour of Britain wedi bod yn llwyddiant mawr yma yng Ngheredigion wrth i’r beicwyr wibio drwy’r sir ac wrth i’r cefnogwyr a’r gwylwyr roi croeso cynnes iddynt; mae'r digwyddiad yn sicr wedi arddangos ein harfordir a'n cefn gwlad hyfryd. Ers tro mae Ceredigion wedi cefnogi beicio ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy groesawu digwyddiadau eraill yn y blynyddoedd i ddod. Fel y dywedwn, dim ond ichi ymweld â’r ardal unwaith, byddwch yn ‘Caru Ceredigion’ a byddwch eisiau dod yn ôl.”

Dilynwch dudalen Instagram y Cyngor, @CaruCeredigion i weld lluniau a fideos o’r digwyddiad.

08/09/2021