Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ennill y wobr ‘Awdurdod Lleol 2019’ yng ngwobrau Cefnogaeth Gymunedol 2019 allan o restr fer o awdurdodau ledled y DU. Derbyniwyd y wobr gan Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a Cathryn Morgan, Cydlynydd Teuluoedd yn Gyntaf a Ffoaduriaid y cyngor. Cynhaliwyd y gwobrau ar 8 Hydref yn Canada House yn Llundain.

Roedd Ceredigion yn un o bum awdurdod lleol yn y DU i gael eu henwebu ar gyfer y wobr fawreddog. Rhoddir y wobr i gynghorau am weithio gyda grwpiau cymunedol sy’n helpu teuluoedd sy’n ffoi rhag rhyfel, newyn a digartrefedd.

Dywedodd y Cynghorydd ap Gwynn: “Dw i wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i ennill gwobr o ledled y DU cyfan. Y wobr fwyaf yw gwybod ein bod wedi helpu cymunedau Ceredigion i gynnig diogelwch a chyfeillgarwch yng Ngorllewin Cymru i ffoaduriaid Syriaidd yn dianc rhag erchyllterau rhyfel cartref.”

“Er ei fod yn fraint bod ein cyfraniad wedi cael ei gydnabod, ni fyddem wedi ennill y wobr oni bai am y cymunedau ymroddgar yn Aberystwyth ac Aberteifi. Gall Aberaid a Chroeso Teifi rannu ein llwyddiant hefyd.”

Tim Finch yw Cyfarwyddwr Sponsor Refugees, y Sefydliad Dinasyddion ar gyfer Cefnogaeth Gymunedol, a drefnodd y gwobrau. Dywedodd: “Mae Cefnogaeth Gymunedol yn dibynnu ar filoedd o arwyr tawel o bob rhan o gymdeithas. Mae’r enillwyr ysbrydoledig o’r wobr eleni yn dangos bod y traddodiad balch Prydeinig o groesawu ffoaduriaid yn fyw ac yn iach. Mae Awdurdodau Lleol yn chwarae rôl hanfodol a hoffem gydnabod a diolch i Gyngor Ceredigion ac awdurdodau lleol eraill sy’n chwarae rhan hanfodol yn cefnogi cymunedau lleol i newid bywydau teuluoedd ffoaduriaid."

Lansiwyd Cefnogaeth Gymunedol yn 2016 gan y Swyddfa Gartref. Mae’n caniatáu i grwpiau gwirfoddol adsefydlu teulu o ffoaduriaid yn eu cymuned. Mae’n rhaid i’r cyngor fetio cynlluniau cyn y gall y Swyddfa Gartref ei gymeradwyo, a fydd wedyn yn paru ffoaduriaid â’r grŵp cymunedol.

Hawlfraint llun © Ian Brodie / Sponsor Refugees

10/10/2019