Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn cael ei ddathlu yn flynyddol ar 15 Hydref.

Pwrpas y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl a dysgwyr.

Eleni, mae Cardi Iaith wedi trefnu gweithgareddau a digwyddiadau amrywiol i ddathlu Diwrnod Shwmae Su'mae mewn ysgolion ar draws Ceredigion. Gemau, cwisiau a chystadlaethau – mae rhywbeth i bob disgybl a hyd yn oed teuluoedd gymryd rhan ynddynt.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor: "Mae’r iaith Gymraeg yn hynod o bwysig i ni yng Ngheredigion. Mae gennym staff gweithgar ac ymroddedig sy'n siarad Cymraeg ar draws gwasanaethau'r Cyngor ac rydym am annog pobl i gysylltu â ni yn Gymraeg a defnyddio'r gwasanaethau Cymraeg hynny. Felly beth am ddechrau ein sgwrs, heddiw a phob dydd arall gyda Shwmae. Rhowch gynnig arni!"

Bydd dros 90 o staff Cyngor Sir Ceredigion sy’n astudio ar raglen Cymraeg Gwaith y Cyngor eleni yn cael y cyfle i gystadlu mewn cwis am Gymru a’r Gymraeg i ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae.

Dilynwch Cardi Iaith ar Facebook am y diweddaraf drwy gydol y dydd.

13/10/2021