Ar ddiwrnod Shwmae Su’mae 2020 mae Cyngor Sir Ceredigion am annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.

Mae diwrnod Shwmae Su’mae yn gyfle i annog ag i helpu staff a thrigolion Ceredigion, boed yn rhugl, dysgwyr neu ond â chwpwl o eiriau i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg, fel modd o normaleiddio’r iaith.

Mae’n bwysig bod pobl Ceredigion yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae ganddyn nhw’r hawl i wneud hynny ym mhob sefyllfa ffurfiol ac anffurfiol. Felly, fel Cyngor mae’n rhaid i’n gwasanaethau Cymraeg fod yn hygyrch, o safon uchel ac yn hawdd eu defnyddio yn unol ag egwyddorion Safonau’r Gymraeg.

Heddiw, 15 Hydref 2020, ar ddiwrnod Shw Mae, mae’r Cyngor wedi rhyddhau fideo a chyhoeddi Canllaw Safonau’r Gymraeg, er mwyn helpu Swyddogion i roi gofynion Safonau’r Gymraeg ar waith. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn medru darparu gwasanaethau Cymraeg o answadd ar gyfer ein trigolion. Heddiw hefyd, mae’r Gwasanaeth Ysgolion yn lansio tudalen Facebook Cardi-Iaith. Tudalen i rannu gwybodaeth am addysg Gymraeg, hanesion ysgolion ynghyd â gwaith gwych y canolfannau hwyrddyfodiaid. Byddant yn lansio cystadleuaeth ‘Shwmae’ ar gyfer plant cynradd ac uwchradd Ceredigion.

Yn ystod y cyfnod clo rydym wedi gweld mwy o ddiddordeb i aildanio sgiliau iaith, mae’n dangos sut y gall technoleg ei gwneud yn bosibl i genhedlaeth newydd ddysgu’r Gymraeg. Drwy ddefnyddio technoleg zoom, mae Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith y Cyngor, wedi medru sicrhau bod oddetu 60 o aelodau staff y Cyngor yn parhau i dderbyn eu gwersi Cymraaeg wythnosol.

Mae cyfle arbennig i bersonau yng Ngheredigion ddilyn cyrsiau blasu Cymraeg ar-lein drwy wefan y Ganolfan Dysgu Cymreg Cenedlaethol. Maen nhw’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion bob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae rhai cyrsiau wedi eu teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, er enghraifft Iechyd a Gofal, Twristiaeth neu Manwerthu.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, “Mae’r cyfnod hwn yn gyfle euraidd i ni hyrwyddo ac annog pobl leol i ddysgu Cymraeg. Rydym yn falch iawn o fedru gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, sy’n cynnig ystod o gyrsiau blasu sydd ar gael i bawb yn rhad ac am ddim. Mae siarad Cymraeg yn agor y drws i nifer o brofiadau a chyfleoedd newydd. Ewch amdani a phob hwyl gyda’r dysgu.”

Diwrnod Shwmae Su’Mae 2020 - Rhowch gynnig arni i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg!

I ddysgu mwy ewch i wefan Dysgu Cymraeg.

15/10/2020