Ar ddydd Iau, 9 Awst, cynhaliwyd digwyddiad i nodi canmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol ym Maes Awyr Gorllewin Cymru, Aberporth.

Gweithiodd Maes Awyr Gorllewin Cymru, Cadetiaid y Llu Awyr Ceredigion, Grŵp Thales, QinetiQ, Cyngor Sir Ceredigion, Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) Aberporth a’r Llu Awyr Brenhinol Aberporth gyda’i gilydd i gynnal y digwyddiad.

Dechreuodd y dathliadau ar ganol dydd gyda chodi’r faner lluman y Llu Awyr Brenhinol, â salíwt wedi ei wneud gan Swyddog Awyr Cymru, Comodôr yr Awyrlu Adrian Williams OBE ADC RAF, sydd yn wreiddiol o Ddinbych.

Cafodd gorymdaith a salíwt cyffredinol ei wneud gan Sgwadronau Cadetiaid y Llu Awyr: 1429 Aberteifi ac Aberporth a 561 Ardwyn Aberystwyth a’r Ardal, gyda’r arolygiad o’r orymdaith yn cael ei wneud gan Swyddog Awyr Cymru, Comodôr yr Awyrlu Adrian Williams OBE ADC RAF, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nyfed, Miss Sara Edwards a Chadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Hag Harris yng nghwmni Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Paul Hinge.

Yn ystod y digwyddiad cafodd gwesteion y cyfle i wylio awyrennau Hawk, o Lu Awyr Brenhinol y Fali, yn hedfan heibio ac i weld arddangosfeydd wedi’u creu gan QinetiQ, Thales a Chadetiaid y Llu Awyr Ceredigion, i ddangos hanes y Llu Awyr Brenhinol yn Aberporth a’r gwaith sydd yn cael ei chynnal ar y maes ar hyn o bryd.

Dywedodd Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru, Comodôr yr Awyrlu OBE ADC RAF, “Roedd o’n fraint i’r Llu Awyr Brenhinol i fod yng Ngheredigion heddiw i ddathlu’r Canmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol gyda’r gymuned leol. Roedd o’n arbennig y buom ni ar y safle ble oedd yr orsaf Aberporth y Llu Awyr Brenhinol yng nghynt, sef nawr ym Maes Awyr Gorllewin Cymru. Roedd o’n arbennig o addawol i ni allu cynnal seremoni heddiw o godi’r faner lluman y Llu Awyr Brenhinol yn Aberporth, seremoni a wnaeth cael ei chynnal diwethaf gan y Llu Awyr Brenhinol yn 1984, pan gafodd y faner lluman y Llu Awyr Brenhinol i ostwng ac roedd y Llu Awyr Brenhinol yn Aberporth wedi cau. Mae diwrnodau fel hyn yn helpu amlinellu’r cysylltiadau pwysig sydd yna rhwng Ceredigion a’r Llu Awyr Brenhinol dros y blynyddoedd ac mae’r Llu Awyr Brenhinol yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth mae’r bobl o Geredigion wedi dangos i ni ar bob adeg. Hefyd, roedden i’n hoffi’n cwrdd â’r Cadetiaid lleol o’r ardaloedd Aberteifi ac Aberystwyth yn fawr iawn, a wnaeth cynnal Parêd trawiadol iawn; maent yn glod go iawn i’w cymunedau.”

Dechreuodd gwaith adeiladu ar faes awyr Aberporth yn 1939, a enwyd yn wreiddiol y Llu Awyr Brenhinol Blaenannerch. Cafodd ei ail-enwi fel y Llu Awyr Brenhinol Aberporth yn 1941 pan agorwyd yr orsaf y Llu Awyr, o dan Orchymyn Cydweithredu'r Fyddin y Llu Awyr Brenhinol a sefydlwyd yn gyntaf fel maes profion milwrol ym Mae Aberteifi yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Heddiw, mae’r MOD Aberporth yn darparu ardal fawr ddiogel i’r gwerthusiad a’r gwasanaethau cefnogaeth hyfforddiant i sicrhau systemau arfau a lansir yn yr awyr, is-systemau cysylltiedig a Systemau Awyr Di-griw (UAS) yn cael eu profi a'u bod yn addas bwrpas.

Roedd Cyn-filwyr lleol ag aelodau’r Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Ceredigion hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Ceredigion, "Mae heddiw wedi bod yn nodiant llwyddiannus gan Geredigion o’r Canmlwyddiant y RAF a daeth hyn i gyd trwy'r gwaith partneriaeth effeithiol rhyngom ni, Maes Awyr Gorllewin Cymru; Thales, QinetiQ, RAF yn Aberporth, MOD Aberporth a'r ddau Gorff Hyfforddi Awyr. "

Am ragor o wybodaeth am MOD Aberporth ewch i'r wefan aberporth.QinetiQ.com.

09/08/2018