Mae Ceredigion yn un o bedwar rhanbarth yng Nghymru a Lloegr a ddewiswyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i gymryd rhan yn Ymarfer y Cyfrifiad ar ddydd Sul, 13 Hydref 2019.

Am y tro cyntaf erioed, mae Cyfrifiad 2021 wedi'i gynllunio i gael ei ateb ar-lein yn bennaf. Oherwydd hyn, mae ymarfer eleni yn arbennig o bwysig gan ei fod yn rhoi'r cyfle i SYG brofi eu systemau a'u prosesau newydd sbon i wneud yn siŵr bod popeth yn gweithio yn union fel y dylai.

Yn ddiweddarach eleni, bydd yr SYG, yn ofyn pawb gofynnir i bawb sy'n byw yng Ngheredigion lenwi holiadur am y bobl ar eu haelwyd ar 13 Hydref 2019. Yr ymarfer fydd ‘digidol yn gyntaf ', yn union fel cyfrifiad 2021, ac felly bydd cymorth ar gael i bobl sy'n ei chael hi'n anodd llenwi'r ffurflen ar-lein, a bydd ffurflenni papur yn cael eu darparu i'r bobl hynny sydd eu hangen mewn gwirionedd.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, “Mae'r wybodaeth a gesglir yn ystod cyfrifiad yn bwysig iawn i bob un ohonom gan ei bod yn ein helpu i ddeall ein poblogaeth ac yn llywio ein cynllunio ar gyfer yr ystod gyfan o wasanaethau cyhoeddus, megis y nifer o lefydd ysgolion sydd eu hangen a darpariaeth tai, ysbytai a gwasanaethau meddyg teulu a gofal cymdeithasol mewn ardaloedd lleol. Mae'r wybodaeth a gesglir yn sail i lefel dyraniad ariannol y Cyngor am y 10 mlynedd nesaf. Felly mae’n hollbwysig i ni gasglu gwybodaeth gyfredol am ein poblogaeth.”

"Ni ddylid cymysgu ymarfer y cyfrifiad gyda'r canfasio blynyddol Cofrestr Etholiadol sy'n cael ei wneud gan Gyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd. Yn ystod y canfasio blynyddol, mae pob cartref yn derbyn ffurflen ymholiadau cartrefi a ddefnyddir i wirio pwy sy'n byw mewn cyfeiriad ac yn cadarnhau pwy sydd ar y gofrestr etholiadol ar hyn o bryd - mae angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio mewn etholiadau a refferendwm."

"Mae sampl o ysgolion cynradd ledled Ceredigion yn mynd i dderbyn pecynnau adnoddau addysgol o’r SYG i hysbysu plant am Ymarfer y Cyfrifiad. Yn 2021, bydd ysgolion uwchradd yng Ngheredigion hefyd yn derbyn pecynnau gwybodaeth ond ni fydd gofyn iddynt gymryd rhan yn y broses ymarfer eleni."

Dewiswyd Ceredigion ar gyfer yr ymarfer oherwydd bod ganddi gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae'n cynnwys ardal wledig fawr gyda chwmpas rhyngrwyd amrywiol. Bydd Tower Hamlets a Hackney yn Llundain, a Carlisle yn Cumbria hefyd yn cymryd rhan.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau cyfrifiad ONS, Pete Benton, “Gan mai dim ond bob deng mlynedd y mae'r Cyfrifiad yn digwydd, mae'n bwysig ein bod yn cynnal ymarfer gweithredol er mwyn sicrhau bod ein holl brosesau yn mynd rhagddynt yn ddidrafferth. Bydd y bobl sy'n cymryd rhan i gyd yn helpu i sicrhau llwyddiant cyffredinol cyfrifiad 2021.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar https://www.ons.gov.uk/census/censustransformationprogramme/2019rehearsal

11/07/2019