Trefnwyd Cered: Menter Iaith Ceredigion noson arbennig yn ddiweddar i Cubs Llandysul ble ddaeth y comedïwr Noel James a oedd ar ‘Britiain’s got Talent’ i’w diddanu.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered,“Rydym yn awyddus iawn i gydweithio gyda mudiadau fel y Cubs er mwyn cynnal cyfres o weithgareddau Cymraeg ar gyfer eu haelodau. Roedd y noson gyda’r digrifwr Noel James yn wych yn Cubs Llandysul - pawb yn mwynhau! Fe fydd yna fwy o weithdai Cymraeg yn digwydd yna yn y dyfodol agos. Hoffwn ddiolch i arweinwyr Cubs Llandysul am gydweithio â hwy fel bod eu haelodau yn cael y cyfle i gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg”.

Yn ôl Alix Bryant, Arweinydd Cubs Llandysul, “Ar ran Sgowtiaid Cubs Llandysul, hoffwn ddiolch i Cered am drefnu noson ddifyr iawn i’r Cubs. Roedd e’n grêt i weld y plant yn cael eu diddanu’n ddwyieithog gan Noel James - nath e neud yn arbennig! Roedd y plant yn hoff iawn ohono fe’n dynwared pobl!

“Mae’r sesiwn hon wedi ysbrydoli’r plant i gwblhau eu bathodynnau adloniant, felly efallai y bydd gennym ychydig o gomedïwyr Cymreig yn ein grŵp. Pwy a ŵyr? Diolch unwaith eto ac edrychwn ymlaen at gydweithio hyd yn oed yn fwy gyda Cered yn y dyfodol.”

Am fwy o fanylion ynglŷn â digwyddiadau Cered: Menter Iaith Ceredigion, ewch i’w gwefan, cered.cymru neu dudalen Facebook, @ceredmenteriaith, neu cysylltwch drwy ffonio 01545 572 358.

04/03/2019