Ydych chi’n gallu chwarae’r ukulele ac am ymuno â cherddorfa ukulele? Neu ydych chi eisiau dysgu sgil newydd a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymraeg? Beth am ymuno â Cherddorfa Iwcs a Hwyl?

Ar nos Lun, 15 Hydref 2018 bydd Cered: Menter Iaith Ceredigion, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Dysgu Cymraeg yn lansio Cerddorfa Iwcs a Hwyl. Dyma gerddorfa ukulele newydd sbon Cymraeg ei hiaith yn Aberystwyth am ddim, i unigolion oed 16 a throsodd.

Fe fydd Cerddorfa Iwcs a Hwyl yn ymarfer yn wythnosol rhwng 6yh a 7:30yh pob nos Lun yn ystod y tymor ysgol ac mi fydd yr ymarferion yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Does dim angen gallu na phrofiad blaenorol o chwarae’r ukulele a bydd offerynnau ar gael i’w benthyg er mwyn cael blas ar y chwarae cyn mynd ati i brynu ukulele eich hun.

Cymraeg fydd prif iaith y Gerddorfa ond mae croeso cynnes i bawb beth bynnag fo lefel eich Cymraeg. Mae’r Gerddorfa yn cael ei chefnogi gan Dysgu Cymraeg fel gweithgaredd gwych i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth mewn ffordd hwyliog a newydd.

Yn arwain Cerddorfa Iwcs a Hwyl fydd Steffan Rees sydd wedi bod yn cynnal llawer o weithdai Iwcs a Hwyl dros y flwyddyn ddiwethaf fel Swyddog Datblygu Cymunedol i Cered. Mae Steffan hefyd yn gerddor sydd yn cyfansoddi a gigio dan yr enw Bwca ac mae wedi bod yn chwarae’r ukulele ers blynyddoedd.

Dywedodd Steffan, “Dwi wedi bod yn ysu i greu cerddorfa ukulele Cymraeg ei hiaith yng Ngheredigion ers sbel ar ôl gweld llwyddiannau a phoblogrwydd rhai yng Nghaerdydd a De Ddwyrain Cymru. Mae’n offeryn sydd yn cyffroi pobl o bob oed o blant ifanc i henoed a gyda bach o amynedd a dyfalbarhad mae’n offeryn digon hawdd i’w feistroli. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu repertoire gyda’r Gerddorfa a chwarae ambell i gig; Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 amdani!”

Mae niferoedd ar gyfer tymor cyntaf y Gerddorfa yn gyfyngedig, felly er mwyn sicrhau eich lle yng Ngherddorfa Iwcs a Hwyl, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 632 232.

 

17/09/2018