Mae pedwar cerbyd deubwrpas wedi cyrraedd Ceredigion. Byddant yn perfformio tasgau cyffredinol cynnal a chadw priffyrdd ac yn trosi fel graenwyr i berfformio gweithgareddau cynnal a chadw yn y gaeaf yn ôl yr angen.

Derbyniodd Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol Cyngor Sir Ceredigion pedwar cerbyd newydd wedi'u gosod gyda'r offer diweddaraf a systemau meddalwedd i fonitro a chynorthwyo gweithgareddau.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd eithaf ar gyfer y briffordd a'r fflyd cynnal a chadw’r gaeaf ar gyfer y dyfodol agos, rydym wedi caffael y cerbydau pwrpasol hyn twy gronfeydd wrth gefn a gadwyd dros flynyddoedd lawer. Yn cael eu galw’n unibodies, mae'r rhain yn gallu gwneud gwaith cynnal a chadw priffyrdd cyffredinol yn ystod yr haf, ynghyd â gweithgareddau graenu a aradu eira yn ystod y gaeaf.”

Bydd effeithlonrwydd technoleg fodern yn gwella effeithlonrwydd tanwydd, lleihau costau cynnal a chadw a lleihau allyriadau C02 gan leihau cyfraniad Ceredigion at newid yn yr hinsawdd.

Parhaodd y Cynghorydd Edwards, “Bydd y cerbydau yma yn gwella gallu'r Cyngor i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw gaeaf effeithiol gan sicrhau bod rhwydwaith llwybrau strategol yn cael eu cadw'n glir o rew ac eira gan ganiatáu i'r economi barhau i weithredu, sicrhau mynediad at gyfleusterau addysgol, masnach, iechyd, diwydiant a'r gymuned wledig.”

Mae’r cerbydau wedi'u creu yn bwrpasol i rwydwaith priffyrdd Ceredigion ac fe'u gweithgynhyrchwyd gan Econ Engineering Ltd sef gwneuthurwr cerbydau graeanu a gwasgaru halen mwyaf y DU.

Daeth y Cynghorydd Edawrds i'r casgliad, “Mae'r pedwar cerbyd hyn yn disodli'r rhai oedd wedi heneiddio yn y fflyd a gafodd eu defnyddio am gyfnod hirach na’r arfer. Byddant yn sicrhau diogelwch ein gweithlu, lleihau cyfraniad at newid hinsawdd, cynnig y diweddaraf mewn technoleg a darparu gwasanaeth effeithlon ar gyfer gwahanol ddibenion yng Ngheredigion.”

Llun: Ian Williams, Cynorthwyydd Technegol; Sue Darnbrook, Cyfarwyddwr Corfforaethol; a Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol gyda dau o’r cerbydau newydd. 

03/07/2018