Mae tri o Safleoedd Gwastraff Cartrefi Ceredigion bellach wedi ailagor.

Mae tri o Safleoedd Gwastraff Cartrefi Ceredigion bellach wedi ailagor.

Mae'r safleoedd yng Nglanyrafon, ger Aberystwyth, Cilmaenllwyd, ger Aberteifi ac yn Llanbedr Pont Steffan bellach ar agor ar gyfer defnydd hanfodol yn unig. Disgwylir i'r safle Gwastraff Cartrefi yn Rhydeinon, ger Llannarth, ailagor am 09:00 ddydd Mercher 17 Mehefin.

Oherwydd y trefniadau newydd a roddwyd ar waith a chefnogaeth trigolion lleol, mae proses yr ailagor wedi mynd yn dda hyd yn hyn heb unrhyw broblemau arwyddocaol wedi'u crybwyll. Fel rhan o Caru Ceredigion hoffai'r Cyngor ddiolch yn ddiffuant i drigolion a gweithredwyr y safle am weithio gyda ni a chwarae eu rhan yn hyn.

Y gobaith yw y bydd trigolion yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol ac yn synhwyrol trwy ymweld dim ond os oes yn wir yn rhaid iddynt, ac yn cadw at yr holl drefniadau newydd sydd ar waith. Bydd hyn yn sicrhau bod y galw yn hawdd ei drin ac yn osgoi ciwiau helaeth.

Mae mynediad i'r holl safleoedd wedi’i gyfyngu i ddefnydd hanfodol yn unig i geir â phlatiau eilrif ar bob diwrnod eilrif y mis a cheir â phlatiau odrif ar bob diwrnod odrif y mis.

Os gellir storio'r eitemau gwastraff yn ddiogel gartref neu os gellir eu casglu fel rhan o'r casgliadau gwastraff domestig arferol ni ddylai trigolion geisio ymweld â'r safleoedd. Bydd y daith i'r domen yn brofiad gwahanol iawn wrth symud ymlaen oherwydd y cyfyngiadau a'r ystyriaethau a ddaw yn sgil pandemig COVID-19.

Mae'n hanfodol bod y cyhoedd yn deall ac yn cadw at y cyfarwyddiadau canlynol wrth geisio cael mynediad i’r safleoedd:

  • Aberystwyth, Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ

Ail-agorwyd ddydd Iau 4 Mehefin 2020

Os yw ciwiau yn ymestyn i brif ffordd drwodd Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, dylai trigolion adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall gan na chaniateir ciwio sy'n effeithio ar y ffordd hon.

  • Aberteifi, Cilmaenllwyd, Penparc, Aberteifi. SA43 1RB

Ail-agorwyd ddydd Iau 11 Mehefin 2020

Os yw ciwiau yn ymestyn i Gefnffordd yr A487 dylech adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall gan na chaniateir ciwio ar yr A487.

Dim ond o gyfeiriad Aberteifi y dylai trigolion geisio cael mynediad. Dim troi i'r dde oddi ar yr A487 o gyfeiriad Penparc – ewch ymlaen i gylchfan Stryd y Priordy ac ewch yn ôl.

  • Ystâd Ddiwydiannol Llanbedr Pont Steffan, Ffordd Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT

Ail-agorwyd ddydd Iau 11 Mehefin 2020

Os bydd ciwiau'n ffurfio ar yr A485 a/neu'r A482 dylai trigolion adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall gan na chaniateir ciwio sy'n effeithio ar y ffyrdd hyn.

  • Llannarth, Rhydeinon, Llannarth. SA47 0QP

Ailagor ar ddydd Mercher 17 Mehefin 2020

Dim ond o gyfeiriad Llannarth y dylid ceisio cael mynediad i’r safle a'i adael trwy deithio tuag at Bost Bach. Ni chaniateir mynediad i gerbydau sy'n ceisio cael mynediad o Bost Bach.

Mae'n naturiol pan fydd sefyllfa'n newid neu'n newydd, gall fod ansicrwydd ynghylch yr hyn a ganiateir neu na chaniateir. Felly ynghyd â rheolau newydd y safleoedd, lluniwyd rhestr Cwestiynau Cyffredin i helpu trigolion i benderfynu ai dyma'r amser priodol ai peidio i ymweld â'r Safleoedd Gwastraff Cartrefi. Gellir dod o hyd i'r Cwestiynau Cyffredin yn http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/safle-gwastraff-cartref-a-banciau-ailgylchu/.

Mae gan yr holl fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith y bwriad o ddiogelu’r cyhoedd a'r staff ar y safleoedd yn ogystal â sicrhau eu bod yn gweithredu mor rhwydd â phosibl wrth sicrhau cyn lleied o darfu ar y rhwydwaith priffyrdd lleol ac eraill.

 

16/06/2020