Fel rhan o Caru Ceredigion, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymgymryd ag ymgyrch Glanhau y Gwanwyn.

Dros y pythefnos diwethaf, mae tîm wedi bod yn casglu sbwriel ar rwydwaith priffyrdd y sir ledled Ceredigion. Maent wedi casglu’r canlynol hyd yn hyn:

  • Tua 1,500kg o sbwriel, sy'n cyfateb i bwysau car teulu neu ddwy fuwch!
  • Dros 750 o fagiau o sbwriel!

Llenwyd 50 bag ar hyd y darn milltir o hyd ar yr A4159 rhwng cylchfan Gelli Angharad a Chapel Dewi yn unig.

Er bod hon yn ymdrech anhygoel mae'n un gellir ei hosgoi yn gyfan gwbl gan ei bod yn ddiangen ac yn ddrud. Er ein bod yn gweithio i brotocolau iechyd a diogelwch llym, mae rhywfaint o risg yn gysylltiedig ag unrhyw waith a wneir ar briffyrdd. Nid yw taflu sbwriel, fel troseddau amgylcheddol eraill tebyg i dipio anghyfreithlon a gadael baw cŵn, yn gwneud unrhyw synnwyr yn amgylcheddol nac yn ariannol ac mae'n peryglu bywydau pobl.

Er bod y ffyrdd yn edrych yn llawer gwell, yn anffodus, rydym wedi gweld sbwriel yn ailymddangos mewn rhai mannau, a hynny ddyddiau wedi i’r gwaith gael ei wneud.

Nid yw disgwyl i rywun arall lanhau drwy'r amser yn ddatrysiad nac yn gynaliadwy. Byddwch yn garwr, nid yn gollwr – gwaredwch eich sbwriel mewn modd cyfrifol a chyfreithiol er mwyn helpu i gadw Ceredigion yn lân.

At hyn, ac yn rhan o elfen arall o Caru Ceredigion, rydym wedi gweld awydd gan fwy o bobl i gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau glanhau cymunedau a thraethau. Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi hyn yn fawr ond gellir dim ond ei gefnogi pan fo’n cael ei wneud mewn modd diogel, a hynny mewn perthynas â COVID-19. Mae Cadw Cymru’n Daclus wedi lansio prosiect Caru Cymru yn ddiweddar, sy’n cyd-fynd yn dda â Caru Ceredigion.

I gael rhagor o wybodaeth am Cadw Cymru’n Daclus, Caru Cymru a’r cymorth sydd ar gael, ewch i wefan Cadw Cymru’n Daclus.

30/03/2021