Cymerodd staff a defnyddwyr gwasanaeth Canolfan Padarn ran yn y Ras am Fywyd a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddydd Sul 13 Mai.

Bu Debbie, Lowri a Donna sy’n rhai o ddefnyddwyr gwasanaeth y ganolfan yn hyfforddi am fisoedd fel rhan o’r grŵp ffordd iach o fyw. Fe wwnaeth Lina, Ellie-May, Heather, Jenny, Dawn ac Anwen sy’n gweithio yno ynghyd â merch Heather, Cala a merch Anwen, Jena ymuno â nhw ar y diwrnod.

Dywedodd Ellie-May Watkins, Gweithiwr Cymorth yng Nghanolfan Padarn, “Cafodd y criw gefnogaeth fawr gan y dorf ac rydym yn ddiolchgar i bawb wnaeth ein hannog i gwblhau'r ras. Hoffem ddiolch yn arbennig i Glwb Bowlio Morfa Mawr am gael defnyddio eu cyfleusterau ar y diwrnod. Yn y gorffennol, mae Canolfan Padarn wedi codi £330 ar gyfer Ymchwil Canser ac rydym yn gobeithio y byddwn yn codi swm tebyg neu hyd yn oed yn fwy eleni.”

Mae Canolfan Padarn yn ganolfan adnoddau ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu yn Aberystwyth, gan gynnig cyfleoedd cymdeithasol, hamdden a gwaith yn lleol.

25/05/2018