Mae Canolfan Bwyd Cymru yn cynnal cwrs hyfforddiant cymorth cyntaf undydd ar 25 Mehefin. Yn agored i fusnesau a'r cyhoedd, mae'r cwrs yn rhoi cyflwyniad i ystod bwysig o bynciau cymorth cyntaf.

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau a all fod yn hanfodol i helpu pobl sydd yn anymatebol ac sydd naill ai yn anadlu neu beidio. Mae hyn yn cynnwys dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr allanol awtomatig. Bydd y cwrs hefyd yn ymdrin â sut i helpu pobl sy'n cael trawiad, sy’n tagu, sy’n gwaedu'n drwm, sy'n dioddef o sioc neu sydd wedi cael eu llosgi.

Russell Hughes Pickering yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am Economi ac Adfywio. Meddai, “Wrth ei natur, gall Cymorth Cyntaf Brys achub bywydau a helpu cydweithwyr neu gwsmeriaid sydd angen cymorth cyntaf. Rwy'n falch iawn bod Canolfan Bwyd Cymru yn cynnal yr hyfforddiant ac rwy'n siŵr y bydd yn werthfawr iawn i unrhyw un sy'n mynychu'r ganolfan.”

Bydd y sawl sy'n mynychu ac yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn derbyn cymhwyster a thystysgrif ffurfiol lefel 3. Mae'r gost o £80 yn cynnwys lluniaeth drwy'r dydd a chinio bwffe ysgafn.

I gael lle ar y cwrs neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch Canolfan Bwyd Cymru ar 01559 362230 neu e-bostiwch Catherine.Cooper@ceredigion.gov.uk

22/05/2019