Bydd nawdd Grant Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru ar gyfer rhanbarth canolbarth Cymru yn gweld buddsoddiad o £5.08 miliwn i helpu adfywio canol trefi yng Ngheredigion a Powys dros y tair blynedd nesaf.

Fel rhan o raglen adfywio Trawsnewid Trefi ehangach, bwriad y Grant Creu Lleoedd yw cynnig cefnogaeth eang a hyblyg i amrywiaeth helaeth o brosiectau gyda’r nod o adfywio canol trefi ar draws canolbarth Cymru.

Gall prosiectau a all fod yn gymwys am gefnogaeth grant amrywio o ddatblygu eiddo masnachol a phreswyl, datblygu marchnadoedd canol trefi, gwella mannau awyr agored cyhoeddus a rennir, a gosod a manteisio ar seilwaith digidol. Bydd angen i brosiectau arddangos cysylltiadau gyda chynlluniau trefi a dangos sut y byddant o fantais i ganol trefi.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae’r Grant Creu Lleoedd yn gyfle gwych i randdeiliaid preifat a chyhoeddus i gael mynediad at gronfeydd i fod yn gatalydd ar gyfer newid yng nghanol ein trefi led led canolbarth Cymru, i wneud gwelliannau yn eu synnwyr unigryw o le ac i greu cymunedau cynaliadwy yn gymdeithasol ac yn economaidd.”

“Mae’r nawdd creu lleoedd a dderbyniwyd y llynedd eisoes wedi cael ei roi at ddefnydd da wrth wneud gwelliannau” esboniodd y Cyng. David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus. “Dyfarnwyd grantiau i nifer o fusnesau a sefydliadau i’w helpu i wneud newidiadau i gynorthwyo adferiad canol trefi wedi covid.

“Roedd ein sylw’n bendant ar gefnogi canol ein trefi, gan sicrhau eu bod yn parhau’n ddiogel ac yn gydnerth, nawr ac i mewn i’r dyfodol. Bydd y chwistrelliad newydd hwn o fuddsoddiad yn mynd hyd yn oed pellach i sicrhau fod ein trefi prydferth yng nghanolbarth Cymru yn cael bywyd newydd ac yn parhau i fod yn lleoedd ffynniannus i fyw, gweithio ac ymweld â hwy.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd: “Rydym yn ymroddedig i wneud ein trefi a’n dinasoedd yn lleoedd hyd yn oed gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hwy. Mae’r Grant Creu Lleoedd yn helpu i adfywio calonnau’r cymunedau lleol hyn.

“Mae canol trefi yn wynebu nifer o heriau sydd ond wedi gwaethygu gan y pandemig, a’n blaenoriaeth yw sicrhau eu bod yn ffynnu a’u hamddiffyn yn erbyn effeithiau newid hinsawdd.

“Rydym wedi gallu cefnogi nifer o brosiectau ardderchog yng nghanolbarth Cymru, gan gynnwys adnewyddu eiddo yng nghanol tref Aberystwyth a thrawsnewid hen fanc yn Y Trallwng.”

Mae’r Grant Creu Lleoedd ar gael i fusnesau preifat, gan gynnwys datblygwyr, busnesau’r trydydd sector, a’r sector cyhoeddus. Am ragor o wybodaeth a manylion ar sut i ymgeisio, edrychwch ar: www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/grant-creu-lleoedd-trawsnewid-trefi/

22/09/2022