Mae’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (SCTB) wedi canmol y dull arloesol o gynllunio yng Ngheredigion. Mae’r sefydliad hefyd wedi annog cynghorau eraill i ddefnyddio arferion tebyg.

Yn ei adroddiad ar brif swyddogion cynllunio, mae’r SCTB wedi galw ar gynghorau i wneud yn siŵr bod cynllunwyr yn cael eu cynrychioli ar y lefel uchaf o ran gwneud penderfyniadau. Mae arolwg diweddar a gynhaliwyd gan yr SCTB wedi dangos bod timau cynllunio wedi’u hymyleiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft o gynghorau sy’n blaenoriaethu’r broses gynllunio yn gynnar yn ystod datblygiadau economaidd a gwasanaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn canmol y ffaith bod y Prif Swyddog Cynllunio yn Swyddog Arweiniol yn y Cyngor. Mae hyn yn golygu bod gan gynllunio dylanwad yng nghyfnod cynnar ym mhrosiectau’r sir.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio, sy’n cynnwys yr Adran Gynllunio. Dywedodd, “Mae’n bwysig ein bod yn cynnwys yr Adran Gynllunio ar ddechrau ein prosiectau. Drwy wneud hyn rydym yn sicrhau bod prosiectau’n datblygu mewn ffordd ystyriol sy’n diwallu anghenion trigolion a chymunedau.”

"Rwy’n falch bod yr SCTB wedi ein dewis i ddangos arfer da. Mae ein staff cynllunio yn gweithio’n galed gyda chydweithwyr ar draws y cyngor i helpu Ceredigion i ddatblygu’n bositif yn y dyfodol. Rhaid i’r ganmoliaeth fynd iddynt am eu gwaith caled.”

Mae penderfyniad y cyngor i flaenoriaethu’r broses gynllunio yn dangos sut mae’r cyngor yn gweithio i gyrraedd ei flaenoriaethau corfforaethol o hybu’r economi a Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol.

09/08/2019