Mae staff y cafodd eu galw i mewn i’r gwaith ar brynhawn dydd Sul, 21 Ionawr i weithio drwy'r amhariad yng Ngheredigion wedi cael eu canmol a'u diolch am eu gwaith caled.

Fe wnaeth glaw trwm annisgwyl a brofwyd ar ddydd Sul achosi llifogydd ar draws y sir ac roedd angen ymateb prydlon gan Swyddogion Ar-ddyletswydd. Cyflwynwyd Trefniadau Ymateb i Ddigwyddiadau am 1yp gyda Swyddogion Dyletswydd a phedwar swyddog arall yn mynychu Depo Glanyrafon i gydlynu'r gwaith. Yn y Gogledd, galwyd pum criw i mewn i deithio i'r prif feysydd yr effeithiwyd ganddynt fwyaf gan y llifogydd. Galwyd ar bedwar aelod o staff cymorth i gymryd a chofnodi galwadau yn ogystal â phedwar aelod o staff i lenwi bagiau tywod ychwanegol. Yn y De, cydlynodd y Swyddog Dyletswydd y gwaith, gyda thair criw yn ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd.

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, “Roedd y glawiad yn llawer trymach na'r disgwyl ar ddydd Sul. Mae'r ddarpariaeth safonol y tu allan i oriau gwaith yn cynnwys dau swyddog dyletswydd - un yng ngogledd y sir ac un arall yn y de. Mae yna ddau criw ymateb 24/7 hefyd - unwaith eto yn un sy'n cwmpasu gogledd y sir ac un arall yn y de.

Oherwydd llifogydd a effeithiodd ar ardaloedd ledled y Sir, galwyd staff i mewn, ac yn y pen draw, roedd gennym 30 aelod o staff. Fe wnaeth hyn sicrhau bod yr aflonyddwch yn cael ei gadw i’r lleiafswm a oedd yn bosib a bod pobl Ceredigion yn cael eu cadw'n ddiogel. Doedd dim rhaid i'r staff a alwyd arnynt ddod i mewn pan ofynnwyd iddynt, ond atebwyd y galwad dim llai. Rwy'n ddiolchgar iawn y gall y Cyngor ddibynnu ar weithlu mor ymroddedig y gellir eu galw i mewn ar fyr-rybudd i gyflawni gwaith hanfodol. Fe wnaethon nhw weithio'n galed iawn.”

Derbyniwyd 86 o alwadau ac ymatebwyd iddynt rhwng 3yp a 8:30yh ddydd Sul, gyda’r prif alwadau rhwng 3yp a 6yp.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Rwy'n falch iawn o weld aelodau staff y Cyngor yn rhoi o’u hamser a gweithio'n galed i helpu pobl eraill. Roedd hyn yn ymdrech aruthrol, yn enwedig gan fod pawb a wnaeth gymryd rhan yn ôl yn y gwaith heddiw, yn ymgymryd a’u gwaith bob dydd!”

Rhoddwyd blaenoriaeth i gau ffyrdd ble roedd angen ac i dai mewn perygl ar fin digwydd o lifogydd yn ogystal â darpariaeth barhaus o fagiau tywod.

22/01/2018